Datganiad I'r Wasg
Datganiad Arweinydd y Cyngor adeg cau’r pen trwm yng Ngwaith Dur Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 23 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
30 Medi 2024
“Mae cau’r ffwrnais chwyth olaf ym Mhort Talbot yn ddiwrnod ingol iawn i’r ardal hon, a bydd yn cael ei deimlo’n arbennig o lym ar draws y dref ei hunan. Ers dros ganrif, mae’r gwaith dur wedi darparu cyflogaeth, naill a’i uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i filoedd – gan fy nghynnwys i fy hunan."
“Cafodd y blynyddoedd diweddaraf hyn eu nodweddu gan ansicrwydd, felly mae’n hanfodol ein bod ni fel Bwrdd Pontio yn gosod ac yn darparu gweledigaeth glir ar gyfer yr hyn sydd i ddod nesaf, a sut y byddwn ni’n cyrraedd at hynny.
“Mae Tata wedi ymrwymo i ddatblygu Ffwrnais Arc Drydan, i sicrhau fod creu dur yn parhau i gael dyfodol ym Mhort Talbot. Mae prosiectau fel y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnig cyfle enfawr i’n cymuned allu chwarae rhan flaenllaw wrth i ddiwydiannau newydd, fel Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) ddechrau datblygu.
“Ond fydd y naill na’r llall o’r datblygiadau hyn yn digwydd dros nos, felly mae’n hanfodol gallu cefnogi ein pobl a’n busnesau lleol sydd wedi dod i ddibynnu ar y gwaith dur ar gyfer eu bywoliaeth.
“Heddiw, gwelir y Bwrdd Pontio’n agor cronfa werth £13.4m ar gyfer y busnesau hynny yn y gadwyn gyflenwi sy’n dibynnu fwyaf ar Tata Steel. Bydd llif arian arall yn cefnogi unigolion sy’n dymuno hyfforddi i gael crefft newydd, a hefyd brosiectau isadeiledd i helpu’r ardal leol ateb galwadau diwydiant a’r economi i’r dyfodol.
“Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n darparu cyfnod pontio cyfiawn i sero net, un sy’n bachu ar y cyfle a gyflwynir gan gyfleoedd proffidiol fel FLOW, ac sy’n hyrwyddo’r arbenigedd a gronnwyd drwy gyfrwng cenedlaethau o greu dur. Rhaid i ni gredu, hyd yn oed ar ddiwrnod trist fel heddiw, fod dyfodol y gallwn fod yn gadarnhaol a gobeithiol yn ei gylch. All hyn ddim bod yn ddim mwy na phroses o reoli dirywiad, fel y gwelwyd gyda’r meysydd glo.
“Fel cyngor, rydyn ni’n wynebu ein heriau ariannol ein hunain, ond rydyn ni’n parhau i weithio’n galed i gefnogi a chynrychioli ein cymunedau drwy gydol y cyfnod anodd iawn hwn.
“Ar ran y Bwrdd Pontio, mae’r cyngor wedi datblygu gwefan i ddwyn ynghyd wybodaeth ar gyfer pobl a busnesau a effeithiwyd. Mae Hyb Gwybodaeth Pontio Tata yn cael ei ddiweddaru’n barhaus, ac mae’n cyfeirio at gymorth ymarferol i bawb a effeithiwyd, nid dim ond pobl sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ewch i www.npt.gov.uk/TataTransition i ddysgu mwy.
“Yn ychwanegol, mae ein gwasanaeth Cyflogadwyedd CnPT, drwy gyfrwng dwy ganolfan galw i mewn ym Mhort Talbot, a’r gwaith allgyrraedd parhaus y mae’n ei wneud, hefyd yn darparu cefnogaeth i bobl a effeithiwyd yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Gallwch ddod o hyd i fanylion am y gwasanaeth drwy’r Hyb Gwybodaeth ar lein.”