Datganiad I'r Wasg
Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau newydd i gefnogi gweithwyr Tata Steel a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn fwy na 5 mis oed
23 Hydref 2024
Mae gweithwyr yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK neu mewn busnes yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni a chontractwyr cysylltiedig eraill bellach yn gallu cael gafael ar gyllid sydd wedi cael ei neilltuo i'w helpu i ailsgilio a dychwelyd i fyd gwaith.
Mae'r ‘Gronfa Hyblyg Cyflogaeth a Sgiliau’ yn rhan o raglen gwerth £13.5m sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a'i chydlynu gan Fwrdd Pontio Tata Steel er mwyn cefnogi pobl a busnesau y mae rhaglen drawsnewid Tata Steel UK yn effeithio arnynt.
Nod y gronfa, sydd ar agor i weithwyr yr effeithir arnynt ac unigolion a gyflogir yn y gadwyn gyflenwi yn unrhyw ran o Gymru, yw sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl iddynt ddod o hyd i gyflogaeth briodol drwy hyfforddiant, uwchsgilio a mathau eraill o gymorth ymarferol.
Gall y grantiau i unigolion gael eu defnyddio at amrywiaeth eang o ddibenion, gan gynnwys costau hyfforddi, ffioedd arholiadau, tystysgrifau a thrwyddedau sy'n gysylltiedig â gwaith, offer a chyfarpar neu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer hunangyflogaeth, a chaiff mathau eraill o gymorth eu hystyried fesul achos unigol.
Bydd y grantiau'n amrywio yn dibynnu ar anghenion yr unigolion a'r math o gymorth y bydd ei angen. Caiff grantiau eu dyfarnu os byddant yn arwain at sicrwydd o gael swydd newydd (hyd at £1,000), neu ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau, neu gael tystysgrifau a thrwyddedau proffesiynol a fydd yn arwain at yrfa newydd ystyrlon i'r unigolyn (hyd at £10,000).
Caiff cyllid ar gyfer cymwysterau, tystysgrifau a thrwyddedau mwy arbenigol a fydd yn arwain at swyddi eu hystyried fesul achos (hyd at £20,000).
Cynhelir y rhaglen ochr yn ochr â rhaglen all-leoli gwerth £20m Tata Steel UK ei hun i gefnogi cyflogeion y mae eu swyddi'n cael eu dileu.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle y rhagwelir y niferoedd mwyaf sylweddol o golledion swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol, mae'r cyllid hefyd wedi cynyddu gallu gwasanaeth Cyflogadwyedd CNPT y cyngor i ymateb i'r cynnydd mewn galw.
Un o'r bobl gyntaf i gael budd o'r cymorth hwn oedd Gareth Ness, a oedd yn gweithio yn y gwaith dur ocsigen sylfaenol (BOS) yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot. Gwnaeth Gareth, a ddechreuodd weithio yn Tata yn 2008, gysylltu â'r gwasanaeth ar ddechrau mis Medi 2024 a rhoddwyd mentor iddo er mwyn trafod ei ddyheadau gyrfa a'r cymorth sydd ar gael.
Ar ôl siarad â sawl cyflogwr sy'n recriwtio mewn ffeiriau swyddi lleol, mae bellach wedi cael cynnig lleoliad prawf mewn cwmni meddalwedd a dadansoddi data a oedd â diddordeb yn ei set sgiliau fel goruchwyliwr tîm.
Dyma a ddywedodd Gareth am y cymorth a gafodd: “Mae'n gyfnod anodd iawn i lawer o bobl ond mae help ar gael, felly byddwn i'n annog unrhyw un sy'n wynebu colli ei swydd i gysylltu â'r cymorth sydd ar gael. Roedd y tîm yn groesawgar ac yn gefnogol iawn, felly does dim angen i neb wynebu hyn ar ei ben ei hun.”
“Roeddwn i'n falch o sylweddoli bod cyfleoedd ar gael y gallwch fynd amdanynt a bod cyllid ar gael i helpu mewn cyfnod sy'n achosi cymaint o straen.”
Caiff y cyllid ei weinyddu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ond mae ar gael i weithwyr yr effeithir arnynt yn unrhyw ran o Gymru drwy wasanaeth cyflogadwyedd eu hawdurdod lleol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Steve Hunt: “Port Talbot yw canolbwynt y rhan fwyaf o'r colli swyddi, ond mae graddfa gweithrediadau Tata Steel yn golygu bod effeithiau canlyniadol yr ailstrwythuro'n cael eu teimlo'n eang iawn. Nid yn unig y mae'r cyngor yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi ein cymunedau lleol, ond mae hefyd yn ymestyn y cymorth hwnnw i bwy bynnag y mae ei angen arnynt, ble bynnag y maent yng Nghymru.”
“Byddwn yn annog unrhyw weithwyr yr effeithir arnynt yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n gweithio i gwmnïau o fewn cadwyn gyflenwi Tata, i gysylltu â gwasanaethau cymorth eu hawdurdod lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Gwyddom fod llawer o weithwyr sy'n gysylltiedig â Tata Steel yn wynebu cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol, ac rydyn ni wedi datgan yn glir y byddwn, drwy gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid cyflawni, yn rhoi'r cymorth gorau posibl cyhyd ag y bydd angen.
“Mae'r Gronfa hon yn rhan o'r cymorth hwnnw, gan gynnig cyngor ar gyfleoedd newydd, hyfforddiant ac uwchsgilio, ynghyd â mathau eraill o help ymarferol.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: “Rwy'n falch dros ben bod y cyllid a gyhoeddais ar gyfer busnesau ac unigolion y mae'r newidiadau ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt eisoes yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Mae helpu pobl fel Gareth i ddod o hyd i swyddi newydd yn enghraifft berffaith o'r cymorth ymarferol rydyn ni'n ei roi er mwyn gwneud yn siŵr na chaiff neb ei adael ar ôl. Rwy'n annog busnesau a gweithwyr y mae angen cymorth arnynt i fanteisio ar y cyllid hwn gan Lywodraeth y DU.
“Rwy'n ddiolchgar iawn am waith caled Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyflawni hyn. Drwy weithio mewn partneriaeth barhaus â Llywodraeth Cymru, y Cyngor ac undebau llafur, byddwn yn cefnogi busnesau a gweithwyr yn ein cymunedau dur, beth bynnag a fo.”
Gall gweithwyr ym Mhort Talbot gael cymorth wyneb yn wyneb drwy'r ddwy ganolfan galw heibio Cyflogadwyedd CNPT yn y dref neu yn y ganolfan gymorth sydd newydd agor yng Nghanolfan Siopa Aberafan, a gaiff ei chynnal gan Undeb Community ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Mae adnodd ar-lein sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth i unrhyw rai yr effeithir arnynt ar gael yn www.npt.gov.uk/PontioTata, ac fe'i cynhelir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar ran Bwrdd Pontio Tata. Mae hyn yn cynnwys dolenni i wasanaethau cyflogadwyedd pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.