Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad y Cyngor yn Ennill Gwobr Fawreddog

29 Hydref 2024

Mae Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill y Wobr Efydd fawreddog am Effaith Ragorol ar Addysg yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru 2024. Cyflwynwyd y wobr i gydnabod mentrau rhagorol y tîm sydd â'r nod o hybu lles meddyliol mewn lleoliadau addysgol ledled y sir.

Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad y Cyngor yn Ennill Gwobr Fawreddog

Cafodd y gwasanaeth ei gydnabod am ei ddulliau arloesol ac effeithiol o wella iechyd meddwl mewn ysgolion, yn enwedig drwy gyflwyno hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac arferion Ysgolion sy'n Ystyriol o Drawma. Mae'r mentrau hyn wedi gwneud cyfraniad allweddol at greu amgylchedd cefnogol lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i drafod eu hiechyd meddwl yn agored, ac at chwalu stigma.

Mae categori Effaith Ragorol ar Addysg y wobr yn dathlu addysgwyr neu leoliadau addysg sy'n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar les meddyliol drwy greu amgylcheddau sy'n cefnogi sgyrsiau agored am iechyd meddwl. Cafodd Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad y Cyngor ei ddewis ar gyfer y rhestr fer o blith dros 200 o enwebiadau ar gyfer y wobr hon, sy'n cydnabod ymrwymiad y gwasanaeth i roi lles disgyblion yn gyntaf.

Dyma a ddywedodd y Cynghorydd Nia Jenkins, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a'r Blynyddoedd Cynnar, am y cyflawniad hwn: “Rydyn ni'n anhygoel o falch o'r Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad am gael y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.

“Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at y bartneriaeth gref rhwng ein gwasanaethau cynhwysiant a'n hysgolion, sydd wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi lles plant a phobl ifanc ledled Castell-nedd Port Talbot.

“Drwy helpu i greu sgyrsiau agored am iechyd meddwl, rydyn ni'n chwalu rhwystrau, yn lleihau stigma, ac yn sicrhau bod ein disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi a'u clywed.”

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn gynharach y mis hwn yng Nghaerdydd a'i nod oedd cydnabod unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy'n mynd yr ail filltir er mwyn blaenoriaethu llesiant pobl eraill.

hannwch hyn ar: