Datganiad I'r Wasg
Ymgyrch Amlasiantaeth yn Defnyddio Hysbyseb Facebook yn y Frwydr yn Erbyn Cludwyr Gwastraff Didrwydded
Mae'r erthygl hon yn fwy na 14 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
29 Hydref 2024
Mae Swyddogion Gorfodi Gwastraff, Trwyddedu a Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymryd rhan mewn ymgyrch amlasiantaeth i ddal cludwyr gwastraff didrwydded sy'n aml yn cyflawni troseddau tipio anghyfreithlon a llosgi gwastraff.
Roedd Ymgyrch Walt yn cynnwys ymgyrch “pryniant prawf” ar y cyd gan y cyngor a phartneriaid yn Heddlu De Cymru lle y cafodd hysbyseb ei chyhoeddi ar Facebook yn galw am gludwyr gwastraff trwyddedig i roi dyfynbris am symud gwastraff o ardal Lon Las.
Yn ogystal â chynnal ymweliadau rhagweithiol â chyflenwyr adeiladwyr yn y fwrdeistref sirol er mwyn eu hysbysu ynghylch eu dyletswyddau cyfreithiol, gwnaeth swyddogion hefyd adael taflenni cyngor a manylion cyswllt er mwyn iddynt eu dosbarthu i'w cwsmeriaid ac unrhyw berchnogion tai a oedd yn dymuno cwyno am waith adeiladu yn eu cartrefi.
Cafodd y rhai a ymatebodd i'r hysbyseb ar 16 Hydref 2024, nad oeddent i'w gweld ar gronfa ddata cludwyr gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd, eu gwahodd i gasglu'r gwastraff a metel sgrap ar amser penodedig.
Cyrhaeddodd dau gludydd gwastraff, a chafodd un ei stopio yn ei gerbyd yn Sidings Terrace, Sgiwen, ar ôl mynd â'r gwastraff o Lon Las yn ei gerbyd. Ar ôl ei stopio, dywedodd yr heddlu wrth y cludydd y dylai roi gwybod i'r DVLA mai ef yw perchennog newydd y cerbyd.
Pan gafodd ei holi pam oedd gwefan CNC yn dangos nad oedd ganddo Drwydded Cludo Gwastraff gyfredol, honnodd y cludydd ei fod newydd adnewyddu ei Drwydded Cludo Gwastraff gan awgrymu ‘efallai nad yw wedi'i diweddaru’.
Cafodd y cludydd ei atgoffa y byddai gwiriadau pellach yn cael eu cynnal ac y gallai wynebu Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 pe bai'n dod i'r amlwg ei fod heb adnewyddu ei drwydded mewn gwirionedd. Mae gwiriadau â CNC wedi cadarnhau nad oedd wedi gwneud cais i adnewyddu ei drwydded, ac mae bellach wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £300.
Gwnaeth yr heddlu ddarganfod bod yr ail gludydd a ymatebodd wedi'i wahardd rhag gyrru.
Cafodd ei gerbyd ei atafaelu ac mae'n bosibl y bydd y mater yn mynd gerbron llys. Mae gwiriadau â CNC wedi cadarnhau nad oedd ganddo drwydded i gludo gwastraff, a rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 iddo.
Dywedodd y Cyngh. Scott Jones, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Mae'r ymgyrch amlasiantaeth hon yn dangos bod y cyngor a'i bartneriaid yn benderfynol o sicrhau y caiff cyfiawnder ei weinyddu i unrhyw un sy'n andwyo'r amgylchedd yn ein cymunedau drwy gludo gwastraff heb y drwydded briodol ac yna ei ollwng, a'i losgi weithiau.”
Cafodd Ymgyrch Walt ei chynnal fel rhan o Wythnos Masnachwyr Twyllodrus, pan wnaeth swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd ymweld â chyflenwyr adeiladwyr lleol i roi cyngor ar wastraff a safonau masnach, a threuliodd Swyddogion Gorfodi Gwastraff ddiwrnod gyda Heddlu De Cymru yn stopio cerbydau masnachol er mwyn cynnal gwiriadau ar drwyddedau cludo gwastraff.