Datganiad I'r Wasg
Prosiect Ailddatblygu Mawr yn Mynd Rhagddo ym Mharc Lles y Glowyr, Glyn-nedd
15 Tachwedd 2024
Mae un o'r prosiectau ailddatblygu parc cymunedol mwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot bellach yn mynd rhagddo, wrth i Barc Lles y Glowyr, Glyn-nedd, wynebu trawsnewidiad mawr.
Gyda chymorth Tîm Datblygu Prosiectau a Chyllid Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cynllun gan Gyngor Tref Glyn-nedd yw'r ailddatblygiad, a'i nod yw gwella cyfleusterau yn y parc ar gyfer trigolion o bob oed.
Bydd ‘Cam Un’ uchelgeisiol y prosiect, sy'n werth £817,860, yn cyflwyno amrywiaeth o gyfleusterau newydd a gwell. Caiff y lawnt fowlio bresennol ei disodli gan barc i blant wedi'i deilwra ar gyfer anturiaethwyr hyd at 11 oed. Bydd y cyfarpar chwarae newydd yn cynnwys siglenni, gwifrau gwib, trampolinau, si-so, rowndabowt cynhwysol, uned aml-chwarae, cwrs rhaffau a ‘ffordd gerbydau’ wyneb meddal lle y gall plant ymarfer eu sgiliau beicio a sgwtera.
Caiff tri o'r cyrtiau tennis eu hadnewyddu'n llwyr a chaiff y pedwerydd ei droi'n fan chwarae amlddefnydd (MUGA), gan gynnig lle amlbwrpas ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, hoci a phêl-rwyd.
Ar ben hynny, caiff y parc presennol i bobl ifanc yn eu harddegau ei ailwampio'n gyfan gwbl, gyda chyfarpar newydd cyffrous yn cael ei ychwanegu, gan gynnwys weiren wib ddwbl, côn dringo, cylchdröwr, siglenni a chysgodfan ieuenctid.
Mae'r ailddatblygiad yn blaenoriaethu cynwysoldeb, gyda chyfarpar newydd sydd wedi'i ddylunio ar gyfer plant ag anableddau, er mwyn sicrhau bod y parc yn hygyrch i bawb.
Mae amrywiaeth o gyfraniadau cyllid yn gyfrifol am wneud y prosiect hwn yn bosibl, gan gynnwys:
- £395,000 o Gronfa Budd Cymunedol Maes Gwyn
- £393,240.10 o Gronfa ‘Gweledigaeth’ Pen y Cymoedd
- £13,518 gan Gyngor Tref Glyn-nedd
- £10,000 drwy Grant Mân Brosiectau Cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot (grant sydd ar gael i bob cyngor tref a chymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot)
- £6,101.90 o Gronfa Budd Cymunedol Selar
Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae'n bleser gennym gefnogi ailddatblygiad Parc Lles y Glowyr, Glyn-nedd, a fydd yn ased ardderchog i'r gymuned. Mae hyn yn enghraifft wych o'r ffordd y gall ein Tîm Datblygu Prosiectau a Chyllid helpu i sicrhau cyllid a chefnogi prosiectau allweddol yn y gymuned.”
Cyngor Tref Glyn-nedd: “Mae'r ailddatblygiad hwn yn nodi pennod newydd i Barc Lles y Glowyr, Glyn-nedd, ac rydyn ni'n falch o wireddu'r gwelliannau hyn ar gyfer trigolion Glyn-nedd. Bydd y cyfleusterau wedi'u huwchraddio'n cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol a hamdden i bobl o bob oed a gallu. Rydyn ni'n anhygoel o ddiolchgar am y cymorth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a'r holl gyllidwyr sydd wedi helpu i droi'r weledigaeth hon yn realiti.”
Mae Tîm Datblygu Prosiectau a Chyllid y Cyngor yn cynnig gwasanaeth cynghori ar grantiau i'r holl sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector sydd wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae hefyd yn helpu grwpiau cymunedol i wneud ceisiadau llwyddiannus am gymorth grant, ac yn helpu i reoli prosiectau cyfalaf.