Datganiad I'r Wasg
Ras 500 milltir EV Rally Cymru yn gorffen ar safle arobryn Canolfan Dechnoleg y Bae yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 18 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
20 Tachwedd 2024
CYRHAEDDODD EV Rally Cymru 2024, sef digwyddiad 500 milltir deuddydd o hyd i arddangos pŵer a photensial cerbydau trydan, ei anterth ar safle arobryn Canolfan Dechnoleg y Bae ym Mharc Ynni Baglan ddydd Iau, 14 Tachwedd.
Gwnaeth y digwyddiad, a gafodd ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Gweithredu ar Newid Hinsawdd, ddechrau yng Nghaerdydd ddydd Mercher, 13 Tachwedd, a gorffen yng Nghanolfan Dechnoleg y Bae lle y gwnaeth Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, y Cyngh. Jeremy Hurley, gyfarch y gyrwyr wrth iddynt groesi'r llinell derfyn.
Dywedodd y Cyngh. Hurley: “Mae'r rali, a gafodd ei chynnal yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru (11–15 Tachwedd), wedi arddangos y twf yn seilwaith gwefru Cymru ac mae'n tynnu sylw at y ffordd y gall beiciau, ceir a cherbydau masnachol (faniau a lorïau) trydan ail-lunio DNA gweithrediadau fflyd mawr a bach fel ei gilydd.
“Fel rhan o'i strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy, mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot bellach fflyd gynyddol o gerbydau gwyrdd, ac mae'r rali wedi arddangos llawer o'r rhain.”
Cafodd Gweithredu ar Newid Hinsawdd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2023 fel rhaglen genedlaethol i ymgysylltu a chyfathrebu â'r cyhoedd, a'i nod yw helpu ac annog pawb yng Nghymru i chwarae rhan yn yr ymdrech i gyrraedd sero net.
Mae safle effeithlon o ran ynni Canolfan Dechnoleg y Bae, lle roedd llinell derfyn y rali, wedi ennill gwobrau gan gynnwys Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yn nigwyddiad mawreddog Gwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain (BCI), y Wobr Sero Net yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) a'r Wobr Gynaliadwyedd yng Ngwobrau Eiddo Insider Wales.
Erbyn hyn, mae gan y ganolfan 25,000 troedfedd sgwâr o faint a agorwyd yn swyddogol ym mis Mehefin 2023, nifer o denantiaid busnes. Mae'r ganolfan yn cynnwys gofod swyddfa a labordy ar gyfer egin gwmnïau, busnesau cynhenid a mewnfuddsoddwyr sy'n chwilio am rywle i sefydlu eu hunain a thyfu eu gweithrediadau – gan helpu i gefnogi arloesedd, arallgyfeirio a thwf yr economi ranbarthol.
Cafodd y prosiect, sy'n werth £8.5m, £3.75m o gymorth grant o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ynghyd â £3m o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a £500,000 o Gronfa Ysgogi Economaidd Llywodraeth Cymru. Ymrwymodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gyfrannu £1.25m.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn sefydlu eu hunain yn y cyfleuster arobryn gysylltu â'r tîm Datblygu Economaidd drwy ffonio 01639 686835 neu e-bostio business@npt.gov.uk. Mae'r ganolfan yn canolbwyntio ar arloesi o ystod o sectorau diwydiant gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd a gweithgareddau busnes arloesol tebyg.