Datganiad I'r Wasg
Ffigurau’n dangos cynnydd mewn mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Castell-nedd Port Talbot
Mae'r erthygl hon yn fwy na 13 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
21 Tachwedd 2024
Gwelwyd cynnydd mewn presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
Y gyfradd fynychu i ddisgyblion ysgolion cynradd yn ystod y flwyddyn oedd 90.97% (cynnydd blynyddol o 1.17%), a’r gyfradd uwchradd oedd 87.61% (i fyny 1.68%).
Er bod ffigurau ysgolion cynradd ledled Cymru heb eu rhyddhau eto, dengys ystadegau cenedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd fod cynnydd sylweddol yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda safle’r awdurdod lleol yn codi o’r 21ain safle yn 2022/23 i’r 15fed lle yn 2023/24.
Dyma welliant o saith safle dros ddwy flynedd, ac mae bellach yn golygu fod Castell-nedd Port Talbot yn llai na hanner pwynt canran yn fyr o gyfartaledd Cymru.
Cynhwyswyd y ffigurau calonogol mewn adroddiad diweddaru a gyflwynwyd gerbron Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 13 Tachwedd, 2024.
Er mwyn gwella presenoldeb ymhellach yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd staff y Gwasanaeth Llesiant Addysg (EWS) yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda staff allweddol mewn ysgolion i drafod achosion disgyblion unigol a rhoi cyngor, cefnogaeth a phenderfynu ar lwybrau gweithredu addas.
Mae gan yr EWS gysylltiadau agos â’r heddlu hefyd, a gyda’i gilydd, byddan nhw’n cynnal patrolau triwantiaeth rheolaeth yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot.
Dros yr haf eleni, edrychodd Estyn, yr oruchwyliaeth addysg a hyfforddi i Gymru, ar bresenoldeb yng Nghastell-nedd Port Talbot, fel rhan o arolwg peilot cenedlaethol tridiau o hyd.
Roedd yr arolygwyr yn llawn cymeradwyaeth i’r gefnogaeth a roddwyd gan y cyngor i’w ysgolion, wrth iddo barhau i wella’r daith bresenoldeb, gan gydnabod y cydweithio a fu gydag ysgolion, a chryfder y dulliau a weithredwyd i wella presenoldeb.
Yn enwedig, fe ganmolon nhw’r wybodaeth dda oedd gan gynghorwyr o ran y gefnogaeth sydd ar gael oddi wrth y cyngor i’r mater hwn, a sut y byddai’r aelod cabinet a’r pwyllgor craffu ar addysg yn cwrdd yn rheolaidd â swyddogion i ystyried cynnydd.