Datganiad I'r Wasg
Sicrhau tegwch – y Cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
05 Rhagfyr 2024
Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol (2023-24) y cyngor, sy'n nodi sut mae'r cyngor yn dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, yn datblygu cyfle cyfartal ac yn meithrin cysylltiadau da.
Mae'r adroddiad blynyddol yn disgrifio cynnydd o ran y ffordd y mae'r cyngor yn darparu gwasanaethau yn unol â'i Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus a'r dyletswyddau cyffredinol a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel y'u nodir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol.
Ymhlith yr elfennau allweddol o waith y cyngor yn ystod 2023-2024 mae:
• Sefydlu Tîm Trechu Tlodi ym mis Gorffennaf 2023 er mwyn helpu trigolion ag incwm gwario net isel.
• Sefydlu ystafelloedd cyfarfod hygyrch â chysylltedd digidol yn adeilad Canolfan Ddinesig Port Talbot.
• Dechreuodd swyddog Ymgysylltu Heneiddio'n Dda yn ei swydd ym mis Mai 2023 er mwyn datblygu agenda Heneiddio'n Dda y cyngor.
• Yn 2022/2023, canran y bobl ifanc a adawodd ysgol ar ôl blwyddyn 11 ac nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) oedd 2.41% ond, erbyn 2023/2024, roedd y ffigur hwn wedi gostwng i 1.3%.
• Gwnaeth y cyngor recriwtio a hyfforddi 33 o Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl sydd bellach yn rhan ganolog o ymgyrch Amser i Newid Cymru sy'n herio stigma iechyd meddwl.
• Llofnododd y cyngor Siarter Gwrth-hiliaeth Unsain, gan ddangos ei ymrwymiad i fynd i'r afael ag unrhyw wahaniaethau ar sail hil ym meysydd recriwtio, dyrchafu, cyfleoedd hyfforddi, a gweithdrefnau cysylltiadau cyflogaeth fel disgyblu neu gyflog.
• Enillodd y cyngor Wobr Cyflogwr Chwarae Teg Womenspire i gydnabod ei gyflawniadau mewn perthynas â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle.
• Enillodd Ysgol Gynradd Baglan statws aur ac enillodd Ysgol Cwm Brombil statws efydd yng nghynllun Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru i gydnabod eu cymorth i blant milwyr.
• Gwnaeth gwaith y Grŵp Cyfathrebu ac Ymgysylltu ynghylch Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a hyrwyddo ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol gan gynnwys Cyfraith Clare, Bright Sky, a Respect. Hefyd, cafodd ymgyrch ‘Heads Up’ ei hymestyn ymhellach i bob rhan o'r diwydiant gwallt a harddwch mewn cydweithrediad ag Ymgyrch Prunella Heddlu De Cymru a Thîm Cadw'n Ddiogel CNPT, a pharhaodd y gwaith o gyflwyno cynllun Mannau Diogel yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot yn ogystal â'r holl adeiladau dinesig a llyfrgelloedd.
• Cafodd Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2023-2028 ddiwygiedig y cyngor ei mabwysiadu ym mis Gorffennaf 2023. Ei nod yw sicrhau y bydd y Gymraeg i'w gweld a'i chlywed yn llawer mwy amlwg mewn cymunedau lleol ac yn cael ei defnyddio gan fwy o bobl yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Dywedodd y Cyngh. Simon Knoyle, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Mae cynghorau fel ni yn darparu cannoedd o wasanaethau cyhoeddus felly rydyn ni'n cyffwrdd â bywydau pobl mewn llawer iawn o ffyrdd. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ystyried yr amrywiaeth eang o anghenion a dyheadau sydd gan bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot a darparu ar eu cyfer.
“Y nod cyffredinol yw gwneud CNPT yn lle tecach i fyw ynddo ac mae'r adroddiad hwn yn dangos bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud yn hyn o beth. Diolch yn fawr i bawb dan sylw am eu hymdrechion parhaus.”
Dolen: Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Cyngor Castell-nedd Port Talbot