Datganiad I'r Wasg
Storm Darragh – Rhybudd i Breswylwyr Castell-nedd Port Talbot am Fasnachwyr Rhiniog
12 Rhagfyr 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhybuddio preswylwyr i fod yn ymwybodol o’u hawliau wrth logi masnachwyr i drwsio niwed a achoswyd gan Storm Darragh.
Mae gan ddefnyddwyr fwy o hawliau wrth brynu ar garreg y drws.
Ar gyfer gwaith sy’n cael ei wneud yng nghartref preswylydd, sy’n werth mwy na £42, mae gofyn i fasnachwyr ddarparu hawliau canslo dan y gyfraith. Mae hyn yn rhoi 14 dydd i gytundebau gael eu canslo.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Hoffwn atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus am fasnachwyr twyllodrus ac i osgoi cael cam. Peidiwch â gadael i neb eich gwasgu i dalu am waith yn eich cartref eich hunan.
“Pwyllwch i ystyried beth sy’n cael ei gynnig, mynnwch ddyfynbrisiau eraill, a gwnewch eich ymchwil am fusnes cyn mynd i gytundeb. Peidiwch â thalu’r swm llawn cyn i unrhyw waith gael ei wneud, a threfnwch i dalu gam wrth gam yn achos jobsys mawr.
“Gwiriwch unrhyw honiadau fod rhywun yn aelod o sefydliad masnach, neu gynllun cymeradwy, neu ewch drwy gynllun cymeradwyo masnachwr fel ‘Prynu’n Hyderus’ i gyflogi masnachwr sydd wedi’i gymeradwyo.
“Hoffem ofyn i chi hefyd gysylltu â ni os ydych chi’n cael rhywun yn dod at eich drws fel hyn, neu os ydych chi’n derbyn taflen drwy’r twll llythyron, am y gallai hynny ein helpu i atal rhywun arall rhag mynd yn ysglyfaeth i’r masnachwyr twyllodrus hyn.”
Gall perchnogion tai a busnesau sy’n meddwl eu bod wedi mynd yn ysglyfaeth i’r math hwn o sgam ffonio llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).