Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2025/26 yng Nghyd-destun Sefyllfa Ariannol Heriol

06 Ionawr 2025

Mae adroddiad sy'n amlinellu cyllideb ddrafft Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26 wedi cael ei gyhoeddi.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2025/26 yng Nghyd-destun Sefyllfa Ariannol Heriol

Bydd swyddogion yn gofyn am ganiatâd y cynghorwyr i ddechrau cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyllideb ddrafft ar 10 Ionawr 2025. Os byddant yn cytuno, bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr 2025. 

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd modd i'r cyhoedd rannu eu safbwyntiau ar y ffordd y mae'r cyngor yn bwriadu parhau i ddarparu dros 400 o wasanaethau cyhoeddus hanfodol ar yr adeg heriol hon.

Er gwaethaf y cefndir ariannol anodd, mae'r cyngor yn gobeithio cyflwyno cyllideb sydd heb doriadau sylweddol i wasanaethau na swyddi.

Ar 2 Hydref 2024, cytunodd y Cabinet i ystyried amrywiaeth eang o gynigion ar gyfer arbedion, gan gynnwys:

•    Newid i gasglu gwastraff bob tair wythnos, cael gwared ar finiau olwynion a dechrau codi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd (a fyddai'n arbed £739k yn ôl y cynigion gwreiddiol)
•    Lleihau niferoedd staff glanhau strydoedd (a fyddai'n arbed £379k yn ôl y cynigion gwreiddiol)
•    Lleihau niferoedd timau atgyweirio systemau draenio a'r gyllideb cynnal a chadw priffyrdd (a fyddai'n arbed £210k yn ôl y cynigion gwreiddiol)
Fodd bynnag, ar ôl gwrando ar adborth gan y cyhoedd yn ystod ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn yr hydref, nid yw'r cynigion uchod yn cael eu hystyried mwyach.

Yn dilyn degawd o doriadau mewn termau real, mae sawl ffactor ychwanegol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gwneud hon yn flwyddyn anodd arall ar gyfer pennu cyllideb fantoledig. Ymhlith y rhain mae'r canlynol: 

•    O ganlyniad i waddol COVID-19, mae mwy o bobl yn chwilio am gymorth gan wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digartrefedd, ac mae gan fwy o bobl ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

•    Arweiniodd y rhyfel yn Wcráin at brisiau ynni uwch a chynnydd sydyn mewn chwyddiant. Er bod chwyddiant bellach o dan 2%, mae llawer o nwyddau a gwasanaethau yn ddrud o hyd ac mae prisiau ynni a chyfraddau llog yn dal yn uchel.

•    Mae'r argyfwng costau byw yn parhau ac mae llawer o'n trigolion a'n busnesau lleol yn wynebu caledi ariannol. Mae'r cyngor yn ymwneud ag amrywiaeth o gyfleoedd datblygu economaidd sylweddol yn ogystal â bod yn bartner allweddol yn yr ymateb i'r newidiadau yn Tata Steel UK Ltd, ac mae effaith gronnol hyn yn heriol iawn.

Cafodd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi ar 11 Rhagfyr 2025.  Cafodd Castell-nedd Port Talbot gynnydd o 4.4% mewn cyllid, sef y degfed uchaf yng Nghymru. Er bod y cynnydd yn cael ei groesawu, mae'r cynnydd gwirioneddol mewn cyllid yn dal ymhell o fod yn ddigon i ymateb i'r pwysau presennol.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi amcangyfrif bod llywodraeth leol ledled Cymru yn wynebu bwlch cyllido o tua £560m y flwyddyn nesaf, ond dim ond £253m yw'r cynnydd cyffredinol mewn refeniw a roddir i gynghorau, sef llai na hanner yr hyn y bydd ei angen arnynt. Bydd diffyg o tua £15m yng nghyllideb Castell-nedd Port Talbot y flwyddyn nesaf.

Yn anochel, bydd angen i bob cyngor wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â thoriadau i wasanaethau a chynnydd yn y Dreth Gyngor. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i arbedion a chynigion ar gyfer cynhyrchu incwm er mwyn lleihau'r effaith ar drethdalwyr a gwasanaethau'r cyngor. Mae rhai o'r cynigion hyn eisoes wedi cael eu cymeradwyo, a byddant yn cael eu rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf. 

Wrth benderfynu faint o arian i'w ddyrannu i gynghorau, mae Llywodraeth Cymru wedi tybio y bydd y Dreth Gyngor yn cynyddu 9.3% ar gyfartaledd. 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu ymgynghori ar gynnydd o 7% yn y Dreth Gyngor.

I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i: https://democracy.npt.gov.uk/documents/s103866/CAB-100125-Budget%20permission%20to%20consult%20report%20-%20FINAL.pdf 

Caiff penderfyniadau terfynol ynglŷn â'r gyllideb, gan gynnwys pennu'r Dreth Gyngor, eu gwneud mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2025.

hannwch hyn ar: