Datganiad I'r Wasg
Openreach yn cynllunio uwchraddio'r seilwaith ffeibr yng Nghastell-nedd Port Talbot
08 Ionawr 2025
Bydd lleoliadau newydd yn cael budd o Bartneriaeth Gymunedol Ffeibr Openreach gyda chymorth drwy Gynllun Talebau Band Eang Gigadid Llywodraeth y DU.
Mae Openreach wedi cyhoeddi cynlluniau i osod band eang ffeibr yn ardal Cwm-twrch Uchaf gan gynnwys ardaloedd Heol Rhiwfawr, Heol Rhiw, Heol Coedffaldau a Chwmllynfell, drwy eu rhaglen Partneriaeth Gymunedol Ffeibr.
Mae'r Bartneriaeth Gymunedol Ffeibr yn caniatáu i Openreach uwchraddio'r seilwaith band eang presennol drwy i safleoedd cymwys addo rhoi eu taleb Band Eang Gigadid Llywodraeth y DU i'r prosiect.
Ar ôl derbyn nifer targed yr addewidion, gall Openreach symud ymlaen i osod seilwaith band eang ffeibr yn yr ardal.
Gall preswylwyr gael gwybod a ydynt yn gymwys a rhoi eu talebau ar wefan Cysylltu fy Nghymuned. Mae'r penderfyniad ar adeiladu'r seilwaith ffeibr, yr adeiladau a gwmpesir, a'r amserlen i gyd yn destun arolygon technegol, yn ogystal â nifer y talebau a addawyd gan y gymuned.
Nid yw'r talebau dilys yn costio dim i drigolion a bydd defnydd digonol yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a'i ariannu ar y cyd. Fodd bynnag, pan fydd y seilwaith ar waith, bydd trigolion wedi ymrwymo i archebu pecyn band eang ffeibr llawn cyflym iawn gan ddarparwr sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach, am o leiaf 12 mis.
Bydd y prosiect hwn o fudd i drigolion Castell-nedd Port Talbot yn yr ardal yn bennaf, ond mae hefyd yn ymestyn i rannau o Sir Gaerfyrddin a Phowys, gan fod yr ardaloedd sydd wedi'u cynnwys yn ffinio â'r siroedd cyfagos hyn.
Dywedodd Jeremy Hurley, un o Gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot a'r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd:
“Mae hyn yn newyddion gwych i gymunedau Cwm-twrch Uchaf a Chwmllynfell! Rwyf mor falch y bydd Openreach yn dod â band eang ffeibr cyflym i'r ardal hon. Yn ogystal â gwella cysylltedd i breswylwyr, bydd hefyd yn cefnogi busnesau, ysgolion a chyfleusterau cymunedol eraill, gan ysgogi twf economaidd yn yr ardal. Rwy'n annog pob preswylydd i gael gwybod a ydyn nhw'n gymwys a gwneud 'addewid'.
Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru:
“Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y rhannau hyn o Gastell-nedd Port Talbot gan y bydd yn sicrhau holl fanteision band eang ffeibr llawn cyflym iawn a dibynadwy iawn i'w cymuned."
“Mae ein rhaglen Partneriaeth Gymunedol Ffeibr wedi golygu ein bod wedi gallu cynnwys miloedd o eiddo ychwanegol ledled Cymru a gweddill y DU yn ein cynlluniau adeiladu ffeibr llawn. Ond mae datblygu'r rhwydwaith yn y lleoliadau sy'n anoddach i'w cyrraedd yn dal i fod yn heriol, a dyna pam mae hyn dim ond yn bosibl gyda phawb yn cydweithio - chi, eich cymdogion ac Openreach."
“Bydd pawb sy'n addo eu talebau yn gwneud eu rhan i helpu i wneud eu cymuned yn un o'r lleoedd sydd â'r cysylltedd gorau yn y DU.”
“Rydym yn buddsoddi £15 biliwn i roi band eang ffeibr llawn i 25 miliwn o gartrefi, a bydd mwy na chwe miliwn o'r rheiny yn nhraean yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn y DU - ond allwn ni ddim uwchraddio'r wlad gyfan ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymorth diweddaraf hwn gan y llywodraeth yn rhan hanfodol o'r broses honno.”
Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn sy'n diogelu'r dyfodol; gan olygu llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd. Mae hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu y bydd yn gwasanaethu cenedlaethau i ddod ac na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.
Mae tîm Seilwaith Digidol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a ariennir gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ar gael i gefnogi trigolion a busnesau sydd â chwestiynau o bosib am y prosiect. I gysylltu â ni, e-bostiwch broadband@npt.gov.uk neu ewch i'r dudalen Band Eang Gwell ar wefan Castell-nedd Port Talbot.
Mae gwefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth am gael band eang gwell yn eich ardal chi, yn ogystal â gwybodaeth am y newid i lais digidol a mwy.