Datganiad I'r Wasg
Maer Castell-nedd Port Talbot yn annerch y Cyngor llawn yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn
10 Ionawr 2025
Wrth annerch cyfarfod llawn o'r Cyngor ddydd Mercher, 8 Ionawr 2025, talodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Matthew Crowley, deyrnged i'w ewythr, Noel Crowley, a fu farw ym mis Rhagfyr 2024.
Etholwyd Noel Crowley i gynrychioli ward Dwyrain Sandfields am y tro cyntaf ym mis Mai 1979, a bu'n gwasanaethu fel Cynghorydd am 25 mlynedd nes iddo ymddeol yn 2004.
Cafodd Mr Crowley ei ethol yn Arweinydd cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ar 1 Ebrill 1996, ac arweiniodd y Cyngor newydd hwn am ei wyth mlynedd cyntaf.
Dywedodd y Maer: “Enillodd Noel lawer o anrhydeddau drwy gydol ei yrfa wleidyddol. Ef oedd Maer Bwrdeistref Port Talbot o 1993 tan 1994 ac Arweinydd y Cyngor hwnnw o 1995 tan 1996. Cafodd ei wneud yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Port Talbot, a chafodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ac Urdd Sant Ioan. Bu'n gwasanaethu fel Dirprwy Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg a chafodd y Pro Ecclesia Et Pontifice am wasanaeth rhagorol i'r Eglwys Gatholig.”
Talodd y Maer hefyd deyrnged i'r cyn-Gynghorydd Audrey Chaves, a fu farw ym mis Rhagfyr. Bu Mrs Chaves yn cynrychioli ward Gorllewin Sandfields o 2012 tan 2017.
Ychwanegodd: “Mewn newyddion hapusach, mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi bod dau drigolyn yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu henwi yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, sef Mr Andrew Vaughan John, Cadeirydd Clwb Rygbi Aberafan, am wasanaethau i Elusennau a Busnesau, a Mr David John James o Gastell-nedd, Ysgrifennydd Cymdeithas Fowlio Sir Ceredigion, am Wasanaeth Gwirfoddol.”