Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Mynnwch Ddweud eich Dweud ar Gyllideb Ddrafft Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26

10 Ionawr 2025

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi dechrau ar gyllideb ddrafft Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener 31 Ionawr 2025.

Mynnwch Ddweud eich Dweud ar Gyllideb Ddrafft Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2025/26

Anogir preswylwyr, busnesau, grwpiau lleol a sefydliadau eraill i leisio’u barn ar sut mae’r cyngor yn bwriadu parhau i ddarparu dros 400 o wasanaethau cyhoeddus hanfodol ac ar yr un pryd gau bwlch tybiedig o £15 miliwn yn y gyllideb.

Awgrymodd Setliad Amodol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2024, y bydd NPT yn derbyn cynnydd mewn cyllid o 4.4% y flwyddyn nesaf – y degfed uchaf yng Nghymru. Er bod croeso i’r cynnydd hwn, ni fydd unlle’n agos at fod yn ddigon i dalu am gostau gwasanaethau.

Er gwaetha’r cefndir ariannol anodd, gobaith y cyngor yw darparu cyllideb na fydd yn peri toriadau sylweddol i wasanaethau.

Y ffordd hawsaf o ddysgu mwy a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad yw drwy ymweld â gwefan y cyngor www.npt.gov.uk/cy/ymgynghoriadau

Bydd modd cael gafael ar holiaduron papur, taflenni am yr ymgynghoriad a chopïau cyfeirio o adroddiad yr ymgynghoriad, sy’n rhestru’r cynigion ar gyfer torri gwariant a / neu gynyddu incwm, mewn adeiladau cyhoeddus ledled Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys canolfannau dinesig, lleoliadau Celtic Leisure a llyfrgelloedd. Bydd gan y lleoliadau hyn flychau adborth ar gyfer cyflwyno holiaduron sydd wedi’u llenwi hefyd.

Gan annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Simon Knoyle: “Yn ystod tymor y weinyddiaeth hon, mae wedi bod yn angenrheidiol i ni ddod o hyd arbedion gwerth dros £23m ac nid yw blwyddyn ariannol 2025/26 yn ddim gwahanol. Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â'r gwasanaethau y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn eu darparu, gan gynnal lefelau y mae trigolion ledled y Sir yn eu disgwyl ar yr un pryd.

"Rydym wedi dod o hyd i lawer o arbedion a chynigion ar gyfer cynhyrchu incwm unwaith eto, ac mae wedi bod yn angenrheidiol i ni wneud hyn er mwyn ceisio darganfod ateb i fantoli'r gyllideb. Mae dod o hyd i ffyrdd o sicrhau y gallwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau statudol yn ogystal â thalu am wasanaethau nad ydynt yn statudol yn dasg enfawr.

"Mae cyfraniad lleol sylweddol at wasanaethau Tân ac Achub hanfodol (cost nad oes gan y cyngor reolaeth drosti) hefyd wedi'i gynnwys o fewn y dreth gyngor.”

Bydd penderfyniadau terfynol ynghylch y gyllideb, gan gynnwys gosod Treth y Cyngor, yn digwydd mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor ar 5 Mawrth 2025.

hannwch hyn ar: