Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Gwelliannau CCTV Bellach ar Waith ym Mhontardawe a Llansawel

27 Ionawr 2025

Mae’r gwaith o osod system teledu cylch cyfyng (CCTV) newydd perfformiad-uchel ynghanol tref Pontardawe, ac uwchraddio’r rhwydwaith camerâu sydd eisoes yn bodoli yng Ngorllewin Llansawel, o dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac wedi’i ariannu drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, bellach wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.

CCTV

Nod y gwaith uwchraddio hwn yw gwella diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr yn sylweddol. Mae’r camerâu newydd wedi’u hintegreiddio i ystafell reoli CCTV y cyngor, sydd wedi’i moderneiddio, ac sy’n gweithredu 24/7 ac yn cydweithio’n agos â’r gwasanaethau brys, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân a’r criwiau ambiwlans.

Yn ôl Melanie Humphreys, Perchennog ‘Village Cards n Gifts’ ym Mhontardawe“Fel perchennog busnes ym Mhontardawe, rwy’n falch iawn ein bod ni wedi cael gosod CCTV. Rwy’n sicr y bydd y camerâu’n cadw fy staff a minnau’n ddiogel, yn ogystal â diogelu busnesau cyfagos eraill.”

Prif fanteision y systemau CCTV yw: 

  • Atal fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol: Lleihad mewn achosion drwy fonitro parhaus.
  • Cefnogaeth i’r heddlu: Darparu cynnwys o safon uchel ar gyfer tystiolaeth.
  • Effeithlonrwydd costau: Potensial i weld lleihad mewn costau diogelwch a thaliadau yswiriant.
  • Mwy diogel: Hwb cyffredinol i ddiogelwch canol y dref a chanfyddiad y cyhoedd.
  • Targedu ymateb yr heddlu: Ymatebion cynt a mwy effeithiol i ddigwyddiadau.
  • Cefnogaeth i fusnes: Tawelwch meddwl i fusnesau sy’n delio â lladrata o siopau a phroblemau eraill.  

Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol:  “Mae cwblhau gosod y CCTV yn ddiweddar ym Mhontardawe a’r uwchraddio yn Llansawel yn nodi cam nodedig ymlaen o ran diogelwch cymunedol, atal gweithgaredd troseddol, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwneud ein cymunedau’n saffach i bawb.”

Gyda mwy o oruchwyliaeth, gall Heddlu De Cymru, a gwasanaethau brys eraill, ymateb yn gynt a mwy effeithiol i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn y camerâu hyn nid yn unig yn cynorthwyo gydag atal troseddu, ond mae hefyd yn helpu i leihau costau diogelwch, ac yn rhoi cynnwys clir, diffiniad uchel ar gyfer ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn llys barn.

Mae’r fenter hon yn dangos ymrwymiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i greu amgylchedd mwy diogel, saffach i bawb.

hannwch hyn ar: