Datganiad I'r Wasg
Ap ‘peiriant amser’ newydd yn galluogi ymwelwyr i brofi Castell Margam mewn hen ffordd hollol newydd!
24 Ionawr 2025
Mae ap Realiti Estynedig (AR) arloesol sy’n dod â hanes cyfoethog castell godidog Margam yn fyw bellach ar gael i’w ddefnyddio gan ymwelwyr.
Collwyd holl du mewn i Gastell Margam, a arferai fod yn llawn o waith celf, cerfluniau a chelfi bendigedig, oherwydd arwerthiant mawr yn 1941 a thân dinistriol yn 1977.
Ond nawr, am y tro cyntaf erioed, mae ap M[AR]gam yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gamu’n ôl i ganol mawredd Fictoraidd y castell.
Gan ddefnyddio dyfais glyfar, gall ymwelwyr sganio ardaloedd allweddol o’r castell i weld ailgreadau digidol cywir o’r llyfrgell a’r ystafell fwyta, ynghyd â phaentiadau, celfi replica, a nenfydau cywrain.
Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Dyma nodi’r tro cyntaf y gall ymwelwyr gamu’n ôl yn rhithiol i Gastell Margam fel yr arferai fod – gan roi cipolwg digymar i’r gorffennol, sy’n trawsnewid yr ystafelloedd gwag yn greadigaethau llachar, moethus Oes Fictoria.”
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU, drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Bro y DU.
Mae’r ap, a ddatblygwyd gan yr ymgynghorwyr treftadaeth a thirwedd CFPUK, yn ‘beiriant amser’ rhithiol – digon addas, efallai, ar gyfer lleoliad a ddefnyddiwyd i ffilmio penodau o Doctor Who.
Mae prosiect Tu Fewn i Fargam yn cyfuno ymchwil gan wirfoddolwyr lleol, haneswyr ac arbenigwyr prifysgol, gan blethu ynghyd dameidiau o orffennol y castell.
Mae’r tameidiau hyn yn cynnwys paentiadau sydd bellach yn cael eu cadw mewn mannau eraill, cerfluniau sy’n parhau, delweddau archifol, a disgrifiadau ysgrifenedig – a drowyd yn brofiad cydlynol ac ymdrochol ar gyfer ymwelwyr â’r castell.
Lansiwyd ap M[AR]gam yn y castell ddydd Iau, Ionawr 23, 2025, ac mae ar gael i’w ddefnyddio gan y cyhoedd o Ionawr 24, 2025.
Mae’r ap newydd a phrosiect Tu Fewn i Fargam y dwyn ynghyd gyfranwyr allweddol gan gynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Prifysgol Abertawe, CFPUK, gwirfoddolwyr y prosiect a haneswyr brwd lleol, i ddathlu’r ailddychmygiad arloesol hwn o ystafelloedd a chelfi coll Castell Margam.
I ddefnyddio’r ap ar y safle, bydd angen i ymwelwyr ei lawrlwytho gyntaf o’r App Store / Google Playstore ar eu dyfeisiadau symudol. Ar ôl cyrraedd y castell, bydd posteri ar y safle y gall ymwelwyr eu sganio, a bydd y rhain yn lansio’r profiad.
Dywedodd Dr Hilary Orange, Cyd-gyfarwyddwr CHART (Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth) a rhan o dîm Prifysgol Abertawe a gyd-ddatblygodd yr ap: "Mae Castell Margam yn safle treftadaeth hynod sydd ag arwyddocâd hanesyddol mawr. Rydym yn gobeithio y bydd yr ap yn gwella profiad diwylliannol ac addysgol ymwelwyr, gan eu helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o etifeddiaeth y castell."
Cynlluniwyd Castell Margam gan y pensaer Thomas Hopper ar gyfer Christopher Rice Mansel Talbot. Fe’i adeiladwyd rhwng 1830 ac 1840 ar gost o £50,000. Mae gan y castell, sy’n Rhestredig Gradd I fel plasty o ansawdd eithriadol, rai nodweddion syfrdanol, fel y neuadd eang gyda’i grisiau a’r tŵr wythochrog.
Un ymwelydd rheolaidd â Margam oedd cefnder Talbot, Henry Fox Talbot. Ac yntau’n arloeswr ym maes ffotograffiaeth, fe dynnodd un o’r golygfeydd ffotograffig cynharaf erioed, gan ddangos yn glir un gornel o dalwyneb de-orllewinol y castell,
Hyd at 1942, bu’r castell a’r ystâd dan berchnogaeth teulu Talbot, pan gafodd ei brynu gan dirfeddiannwr lleol, Syr David Evans Bevan. Mae’r safle bellach dan ofal Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Y llynedd, cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) grant o £900,030 ar gyfer Castell Margam i ariannu gwaith cyfalaf mawr ei angen i adfer yr adeilad, gan sicrhau bod cynaliadwyedd a hygyrchedd wrth y llyw, a hwyluso ymgysylltiad cymunedol gwell trwy adeiladu mannau cyhoeddus defnydd cymysg. Nod y prosiect cyffrous ac uchelgeisiol yw sicrhau dyfodol adeilad eiconig y castell ei hun, gan ddod â defnyddiau newydd i ddenu cynulleidfaoedd newydd a mwy o incwm hefyd.
Mae’r ap bellach yn fyw ar yr App Store a Google Play hefyd:
https://apps.apple.com/gb/app/m-ar-gam/id6739141592
https://play.google.com/store/apps/details?id=com.Zubr.Margam