Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Tîm Cyngor i wneud gwaith trwsio hanfodol ar Ddraen Ford ar Ffordd Fabian

24 Ionawr 2025

Mae defnyddwyr heol yn cael eu cynghori y bydd gwaith arfaethedig yn dechrau ddydd Llun 27 Ionawr ar un o heolydd prysuraf Bae Abertawe, er mwyn gwneud gwaith trwsio hanfodol o fewn system ddraenio Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n gwasanaethu Cilgant Elba.

Ffordd Fabian

Bydd gwaith yn digwydd ar gerbytffordd orllewinol yr A483 Ffordd Fabian ar leoliad rhwng Cilgant Elba a Champws y Bae Prifysgol Abertawe.

Bydd angen cau un lôn dros dro ar y gerbytffordd orllewinol oherwydd y gwaith.

Yn ogystal, bydd angen adleoli arosfan bws cerbytffordd orllewinol Ffordd Fabian tra bo’r prosiect ar waith.

Gan osgoi unrhyw broblemau na ellir mo’u rhagweld gydag offer a’r tywydd, dylai’r gwaith gymryd rhyw bythefnos waith i’w gwblhau.

Amserlennwyd y gwaith, sy’n cael ei gyflawni gan dîm Gwasanaethau Priffyrdd a Draenio Cyngor Castell-nedd Port Talbot (HADS), i ddigwydd rhwng 8am a 4pm.

Bydd offer pwmpio wedi’i leoli ar y droetffordd i reoli lefelau dŵr tra bo’r gwaith gwella’n digwydd.

Rhoddwyd gwybod i breswylwyr Cilgant Elba drwy lythyr y bydd cyfyngiadau ar symud cerbydau ar hyd y lôn gefn a leolir rhwng rhif 18 a rhif 19.

Bydd mynediad i’r gwasanaethau brys ar gael bob amser.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Hoffem ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd a’r preswylwyr am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth drwy gydol oes y gwaith trwsio pwysig hwn.

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir, a’n nod yw cwblhau’r gwaith hwn gyda chyn lleied â phosib o darfu ar fywyd beunyddiol.”

hannwch hyn ar: