Datganiad I'r Wasg
Cyllideb 2025/26 Castell-nedd Port Talbot – gwarchod eich gwasanaethau ar adeg heriol
20 Chwefror 2025
ER GWAETHAF GWASGFEYDD ARIANNOL enfawr, gobaith Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw cyflwyno cyllideb 2025/26 ar gyfer preswylwyr heb wneud toriadau o bwys mewn gwasanaethau hanfodol fel gwasanaethau cymdeithasol, tai ac addysg arbenigol, y mae galw amdanynt yn cynyddu’n ddi-ben-draw.
Wedi blynyddoedd o danariannu cronig, gwelwyd fod angen gwneud toriadau i’r gyllideb a chynnydd mewn cynhyrchu incwm, gan gynnwys cynyddu Treth y Cyngor, unwaith yn rhagor er mwyn cydbwyso cyllideb 2025/26.
Eleni amlygwyd bwlch yn y gyllideb o £15.031m ond gyda pheth wmbredd o arbedion a chynigion ar gyfer cynhyrchu incwm, llwyddwyd i’w leihau i £6.398m gydag ymgynghoriad yn digwydd gyda phreswylwyr i gynyddu Treth y Cyngor gan 7% o bosib. Mae hyn gryn dipyn is na thybiaeth Llywodraeth Cymru y bydd cynghorau Cymru’n cynyddu Treth y Cyngor gan 9.3%.
Mae’r cynnydd arfaethedig o 7% yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynrychioli cynnydd ar gyfartaledd (ar draws pob band Treth y Cyngor) o £2.15 yr wythnos.
Mae cyfanswm o 67,000 aelwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gymwys i dalu Treth y Cyngor, ond diolch i’r Cynllun Lleihau Treth y Cyngor, mae rhyw 11,000 yn derbyn cefnogaeth lawn, felly ddim yn talu Treth y Cyngor o gwbl, ac mae 5,000 yn rhagor yn cael cefnogaeth rannol i dalu Treth y Cyngor.
Yn 2025/26 y cyfanswm y gyllideb arfaethedig ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yw £405.374m. Bydd y rhan fwyaf o’r swm hwn yn cael ei fuddsoddi mewn addysg ac ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, tai a diogelwch cymunedol. Dyma fydd y buddsoddiad:
Cyfarwyddiaeth Addysg s Dysgu Gydol Oes (ELLL)
£121.129m ar gyfer cyllideb ddirprwyedig ysgolion a £34.331m i mewn i Gyfarwyddiaeth ELLL – cynnydd o £14.671m ar gyfer ysgolion a £1.206m ar gyfer ELLL o’i gymharu â llynedd.
Defnyddir y buddsoddiad hwn i addysgu rhyw 22,000 o blant a phobl ifanc ac i fynd i’r afael â phroblemau penodol fel absenoldeb cyson, er mwyn ateb y wasgfa sylweddol ar gyfer lleoedd arbenigol a gynlluniwyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ac i sicrhau fod pob disgybl yn derbyn darpariaeth arbenigol addas ar gyfer eu hanghenion. Ar hyn o bryd mae bron bob darpariaeth arbenigol yn llawn dop. Yn hanesyddol, gwelwyd fod ysgolion uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot ymhlith y gwaethaf o ran diffyg cyllid digonol drwy Gymru, a bydd y gyllideb arfaethedig hon yn taclo hynny.
Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol
Mae’r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu buddsoddiad o £127.219m, cynnydd o £13.520m neu 11.9% o’i gymharu â 2024/25.
Defnyddir y buddsoddiad hwn i gefnogi 2,400 o blant bregus a’u teuluoedd, dros 2,500 o oedolion sydd angen gofal a chefnogaeth a 250 o bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Bydd hefyd yn cynyddu nifer y lleoliadau ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth, yn cynyddu gweithlu gwaith cymdeithasol sefydlog ac yn mynd rhyw gymaint o ffordd at wrthbwyso costau cynyddol darparu gofal.
Wrth osod y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2025/26, gwrandawodd Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ofalus ar farn preswylwyr, ac ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd, gollyngwyd sawl cynnig gan gynnwys cyflwyno casgliadau gwastraff bob tair wythnos, gwneud i ffwrdd â biniau olwynion a chyflwyno tâl am gasglu gwastraff gwyrdd (arbediad o £730,000), lleihau’r gweithlu gwasanaethau cymdogaeth (£379,000), lleihau’r tîm trwsio priffyrdd a’r gyllideb i gynnal a chadw priffyrdd (£210,000) ac adfer yn llawn gostau glanhau ysgolion – a fydd yn cael ei gyflwyno’n raddol nawr dros ddwy flynedd (£157,000).
Am na chafwyd awgrymiadau amgen, arweiniodd dileu’r cynigion hyn at fwy o fwlch yn y gyllideb, oedd yn galw am gynyddu Treth y Cyngor.
Roedd setliad amodol eleni (y cyfraniad ariannol at wasanaethau’r cyngor) oddi wrth Lywodraeth Cymru’n gynnydd o 4.4% neu £12.977m o’i gymharu â llynedd – gwelliant ar y 0.5% neu £1.5m a fodelwyd yn wreiddiol.
Er nad yw’n agos at fod yn ddigon i lenwi’r bwlch ariannu, bydd yn rhaid defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i dalu costau chwyddiant uwch na’r disgwyl yn ogystal â buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau, gan gynnwys £1.5m yn ychwanegol i’r gyllideb ysgolion ddirprwyedig a buddsoddiad ychwanegol i sefydlogi cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol, sydd wedi bod yn dibynnu hyd yn hyn ar ddefnyddio arian wrth gefn i ariannu costau craidd.
Cynigir hefyd fuddsoddi £110,000 ychwanegol i mewn i’r Tîm Iechyd Amgylcheddol. Bydd yr arian hwn yn talu am ddau aelod o staff ychwanegol a fydd yn mynd i’r afael yn benodol ag adeiladau masnachol adfeiliedig ac mewn cyflwr difrifol.
Cynhwysir y cynigion ar gyfer y gyllideb mewn adroddiad a ystyrir gan Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 26 Chwefror 2025, gyda’r cymeradwyo terfynol i ddigwydd yn ystod cyfarfod llawn o’r cyngor ar 5 Mawrth. 2025.
Dolen: NEATH PORT TALBOT COUNTY BOROUGH COUNCIL