Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Hoffem glywed eich barn ar ein dull o reoli’r perygl o lifogydd

21 Chwefror 2025

Mae barn pobl yn cael ei geisio am Gynllun a Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (LFRMSP) Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Hoffem glywed eich barn ar ein dull o reoli’r perygl o lifogydd

Amlinellir cyfrifoldeb y cyngor i ddatblygu’r ‘strategaeth leol’ hon yn y Ddeddf Reoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Fel Awdurdod Arweiniol dros Lifogydd Lleol, rhaid i’r cyngor ddatblygu, cynnal, gweithredu a monitro strategaeth ar gyfer rheoli risg o lifogydd lleol.

Bydd y strategaeth leol ond yn ymdrin â pherygl o lifogydd lleol, a ddiffinnir yn y ddeddf fel perygl o lifogydd a achosir gan:

  • Dŵr ffo ar yr wyneb
  • Dŵr daear
  • Cyrsiau dŵr cyffredin

Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu fod yn rhaid i’r cyngor adolygu’i LFRMSP nawr, a chyhoeddi fersiwn ddiwygiedig. Mae’r LRFMS drafft a’r cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd ag ef yn cyflwyno cynlluniau’r cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd ledled y fwrdeistref sirol dros y chwe blynedd nesaf.

O nawr hyd nes i’r cyfnod ymgynghori hwn ddod i ben (am hanner nos nos Sul, Mawrth 9, 2025) gofynnir i chi roi eich barn ar yr LRFMSP drafft. Gallwch ddarllen y strategaeth ddrafft a’r cynllun, a dogfennau cefndirol, drwy gyfrwng y dolenni hyn.

Dolen i’r arolwg ymgynghori: Drafft o Strategaeth a Chynllun Rheoli Risg Llifogydd CnPT

Mae’r LFRMS yn edrych ar sut y mae’r Awdurdodau Arweiniol dros Lifogydd Lleol yn cydweithio gyda chymunedau i reoli perygl llifogydd er mwyn i’r cymunedau sydd dan fwyaf o berygl a’r amgylchedd elwa fwyaf.

Ar ôl y cyfnod ymgynghori, cyflwynir LFRMSP diwygiedig i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo gan weinidog.

Yn ôl y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun, y mae’i bortffolio’n ymdrin â rheoli perygl llifogydd: “Rhowch wybod eich barn ar ein strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn lleol.

“Mae llifogydd yn parhau i fod yn fygythiad difrifol i gymunedau ledled Cymru a Phrydain, ac mae rheoli’r risg drwy gynllunio’n ofalus yn allweddol i leihau’r perygl i’n cymunedau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.”

hannwch hyn ar: