Datganiad I'r Wasg
Yr olwyn yn troi at atyniad mawr iawn ar Lan Môr Aberafan!
Mae'r erthygl hon yn fwy na 18 mis oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
26 Chwefror 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dod i gytundeb gyda’r cwmni ffeiriau hir-sefydledig Studts Events Ltd i ddod â reid ‘olwyn fawr’ 118 troedfedd o uchder anhygoel i Lan Môr Aberafan yn nes ymlaen eleni.
Yn ddibynnol ar gael caniatâd cynllunio, bydd y reid, o’r enw Yr Olwyn Fawr ar Lan Môr Aberafan, yn gweithredu dros fisoedd yr haf hyd at 2027. Law yn llaw â’r olwyn fawr, cynhelir hefyd gyfres o ffeiriau hwyl ar lan y môr a weithredir gan yr un cwmni, eto yn ystod misoedd yr haf hyd at 2027.
Yn ôl Sean Smith, Cyfarwyddwr Gweithrediadau gyda Studts Events: “Fel cwmni teuluol lleol, rydyn ni’n ddiolchgar iawn ac yn llawn cyffro o gael y cyfle hwn i ddod ag atyniad anhygoel arall i Lan Môr Aberafan, law yn llaw â’n ffeiriau hwyl.”
Bydd agoriad mawr yr olwyn fawr yn digwydd dros y misoedd nesaf hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Bydd y cytundeb hwn, os bydd yn cael cymeradwyaeth gan y pwyllgor cynllunio, yn darparu atyniadau ychwanegol ar Lan Môr Aberafan i breswylwyr lleol ac ymwelwyr, sy’n gyson â’r uchelgais a amlinellwyd yn Uwch-gynllun Glan Môr Aberafan y Cyngor, a’r Cynllun Rheoli Cyrchfan.”
Bydd modd i’r rhai sy’n reidio ar Olwyn Fawr Aberafan fwynhau golygfeydd ysgubol ar draws Môr Hafren a Bae Abertawe. Lleolir yr olwyn fawr a’r ffeiriau ar safle ar lan y môr ger y toiledau cyhoeddus a chyferbyn â Chanolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan.