Datganiad I'r Wasg
RHYBUDD AM SGAM PARCIO
27 Chwefror 2025
MAE CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT yn rhybuddio gyrwyr i fod yn wyliadwrus ar ôl i godau QR ffug gael eu darganfod ar beiriannau parcio yng Nghwm Tawe.
Gadawodd cwsmer oedd yn mynychu sioe yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe ddydd Sul 23 Chwefror 2025 i staff wybod fod cod QR ar beiriant parcio yn Stryd Herbert, yn ffug.
Ni wnaeth y cwsmer gwblhau taliad drwy ddefnyddio’r cod QR ar ôl dechrau drwgdybio, a chanfuwyd fod sticer cod QR ffug wedi’i osod dros ben sticer y cyngor.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rydyn ni’n diolch i’r cwsmer am ddwyn hwn i’n sylw. Yn anffodus, mae hwn yn sgam cyffredin ar hyn o bryd, ac rydyn ni’n gofyn i bawb sy’n defnyddio cyfleusterau parcio ledled Castell-nedd Port Talbot ac ymhellach i ffwrdd i fod yn wyliadwrus.
‘Mae’r sticeri cod QR ffug oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn wedi cael eu tynnu i ffwrdd, ac mae’r cyngor yn ceisio amlygu pwy oedd yn gyfrifol amdanynt. Yn aml, mae’r bobl sy’n rhan o’r math hwn o sgam wedi’u lleoli y tu fas i Brydain.
“Hoffem gynghori aelodau’r cyhoedd os ydyn nhw’n sganio cod QR yn un o’n meysydd parcio, ac nad yw hwnnw’n mynd â nhw i safle sydd naill ai’n Chipside neu MiPermit, mae hynny’n golygu fod ein cod QR wedi cael ei amharu. Os dyma yw eich profiad, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion cerdyn yn eich ffôn, ond yn hytrach talwch drwy gyfrwng y peiriant talu ac arddangos yn lle."
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: “Fe wnaeth ein swyddogion dynnu’r sticeri ffug hyn i ffwrdd cyn gynted ag y gallen nhw ar ôl cael gwybod amdanyn nhw, a hoffem apelio ar breswylwyr i roi gwybod i ni os ydyn nhw’n gweld unrhyw sticeri cod QR amheus eraill.”
Gofynnir i unrhyw un sy’n dod ar draws codau QR ffug eu riportio drwy gyfrwng llinell gymorth defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).