Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Pwyllgor yn clywed bod ‘cynnydd da’ yn digwydd o ran hybu’r Gymraeg ar draws Castell-nedd Port Talbot

28 Chwefror 2025

Gymraeg ar draws Castell-nedd Port Talbot Y cyhoeddiad y bydd Parc Gwledig Margam yn gartref i Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2025, the penderfyniad Cyngor Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot i benodi’i Hyrwyddwr y Gymraeg cyntaf, a chynnydd mewn ymweliadau â thudalen ‘Dysgu a Defnyddio’r Gymraeg’ gwefan y cyngor.

Pwyllgor yn clywed bod ‘cynnydd da’ yn digwydd o ran hybu’r Gymraeg ar draws Castell-nedd Port Talbot

Dyma rai’n unig o’r uchafbwyntiau yn Adroddiad Blynyddol Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg (2023-2024) a gyflwynwyd i aelodau’r Pwyllgor Craffu.

Rhoddodd y diweddariad a wnaed gerbron y pwyllgor wybodaeth am gynnydd o ran hybu’r defnydd o’r Gymraeg, ledled cymunedau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac ar draws y cyngor ei hunan, rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.

Dyma’r llwyddiannau allweddol:

  • Rhoddwyd hwb enfawr i’r Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot pan gyhoeddwyd mai Parc Margam fydd lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2025. Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru, gan ddenu 75,000 o gystadleuwyr a thros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd 2025 rhwng 26 – 31 Mai, 2025.
  • Lansiwyd Cynllun Rheoli Cyrchfan Castell-nedd Port Talbot. Mae’r cynllun hwn yn amlygu’r Gymraeg fel rhywbeth sy’n allweddol wrth annog ymdeimlad o le a chreu cymunedau bywiog.
  • Dewisodd Maer Ieuenctid newydd Castell-nedd Port Talbot ganolbwyntio ar y Gymraeg fel un o’i blaenoriaethau. Hefyd, penododd Cyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot ei Hyrwyddwr y Gymraeg cyntaf, gyda’r gwaddol y bydd gan y Cyngor Ieuenctid Hyrwyddwr y Gymraeg bob blwyddyn o hyn ymlaen.
  • Gwelodd tudalen ‘Dysgu a Defnyddio’r Gymraeg’ ar wefan y cyngor gynnydd o 166 ymweliad neu 44.5% yn 2023-2024, o’i gymharu â 2022-2023.
  • Cyflogodd y cyngor Gynllunydd Cynnwys Cymraeg i sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei hymgorffori ymhob agwedd o’i gwasanaethau digidol.
  • Mabwysiadwyd Strategaeth Ddiwylliant Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi 2023, gyda’r brif thema o gwmpas y Gymraeg yn cael ei nodi fel ‘Calon Gymreig’.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Simon Knoyle: “Mae’n weledigaeth gan y strategaeth ddiwylliant i weld ein hiaith Gymraeg a’i diwylliant yn ffynnu erbyn 2030, gan helpu i gyflawni saith nod llesiant  Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (2015). Mae diwylliant Cymreig wrth galon y strategaeth hon.

“Mae Grŵp Swyddog Iaith Gymraeg y cyngor yn dal i fod yn allweddol o ran hybu’r Gymraeg, gweithredu’r safonau, amlygu arferion da a monitro cydymffurfio.

“Mae’n bleser gweld y cynnydd da sy’n cael ei wneud o ran ein strategaeth ar gyfer hybu’r Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, am fod hyn nid yn unig yn golygu ein bod ni’n cyflawni ein hymrwymiadau o dan Safonau’r Iaith Gymraeg, ond mae hefyd yn dangos ein bod ni’n helpu i gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Mabwysiadwyd fersiwn ddiwygiedig o Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Cyngor Castell-nedd Port Talbot 2023-2028 gan y cyngor  ar 12 Gorffennaf, 2023. Hwn oedd yr adroddiad blynyddol cyntaf o dan y strategaeth ddiwygiedig honno.

Dolen: on https://www.npt.gov.uk/council/strategies-plans-and-policies/welsh-language/welsh-language-promotion-strategy/

hannwch hyn ar: