Datganiad I'r Wasg
Rhoi teyrngedau i gyn-Arweinydd y Cyngor Alun Thomas OBE
07 Mawrth 2025
Estynnwyd teyrngedau i gyn Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Alun Thomas mewn cyfarfod o’r Cyngor ddydd Mercher (5 Mawrth).
Bu Alun, a gâi’i adnabod fel Ali gan gyfeillion a chydweithwyr, farw'r wythnos ddiwethaf.
Roedd Ali’n gyn-löwr a anwyd ac a fagwyd yn Onllwyn, ac ymroddodd ei fywyd cyfan i wasanaeth cyhoeddus. Cynrychiolodd Onllwyn fel Cynghorydd ward lleol, a gwasanaethodd fel Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot o fis Mai 2009 nes iddo ymddeol o lywodraeth leol yn 2017. Cyn hynny’ bu’n Ddirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot o 2004.
Cydnabuwyd ei ymroddiad i lywodraeth leol drwy gyflwyno sawl arwydd o glod iddo, gan gynnwys Gwleidydd Lleol y Flwyddyn 2011, OBE am Wasanaethau i Lywodraeth Leol yng Nghymru yn 2014, a Doethuriaeth Er Anrhydedd o Brifysgol Abertawe yn 2015. Ym mis Ebrill 2017, derbyniodd Ryddfreiniaeth Er Anrhydedd y Fwrdeistref Sirol.
Roedd Ali’n adnabyddus drwy gydol mudiad cenedlaethol Llafur ym Mhrydain, a chynrychiolodd Gastell-nedd Port Talbot yn y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol.
Dechreuodd ei gyfraniadau i waith gwirfoddol yn ifanc, pan oedd yn 14 oed, a pharhaodd i wasanaethu fel aelod pwyllgor Neuadd Bentref Pant-y-ffordd a Neuadd Les Glowyr Onllwyn, ble roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol am ddeunaw mlynedd. Roedd hefyd yn aelod sylfaenol ac aelod oes o Gôr Meibion Onllwyn.