Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i gyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot

11 Mawrth 2025

Dim ond tan hanner dydd, ddydd Mercher 19 Mawrth 2025 sydd gan bobl i gyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot eleni, sy'n cydnabod arwyr di-glod o bob cwr o CNPT sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.

Sean Holley yn y seremoni y llynedd


Gyda chefnogaeth garedig Trade Centre Wales a Tata Steel UK, caiff y digwyddiad yr edrychir ymlaen yn eiddgar ato ei gynnal yn Yr Orendy, Parc Gwledig Margam, ddydd Gwener 4 Ebrill 2025.

Gallwch gyflwyno eich enwebiad isod:

Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot 2025 – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Dywedodd Rheolwr Materion Cyhoeddus a Chymunedol Tata Steel UK, Lewis Clark: “Mae'n bleser mawr gan Tata Steel UK unwaith eto fod yn un o brif noddwyr Gwobrau Dinasyddion Maer Castell-nedd Port Talbot, sy'n gyfle i daflu goleuni ar ein cymuned leol ar ei gorau.

“Wrth i Tata Steel UK fynd drwy ei drawsnewidiad mwyaf ers degawdau – drwy fuddsoddi £1.25bn mewn ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot – rydym yn dal yn gwbl ymrwymedig i'r ardal leol ac mae'n anrhydedd gan y cwmni helpu i gydnabod cyflawniadau rhyfeddol unigolion a sefydliadau o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot unwaith eto.”

Ychwanegodd Cadeirydd a Sylfaenydd Trade Centre Wales, Mark Bailey: “Ers i ni agor ein harchfarchnad geir gyntaf un ym Mynachlog Nedd yn ôl yn 2001, mae Trade Centre Wales wedi dod yn rhan wirioneddol o'r gymuned leol drwy barhau i gefnogi achosion da a chwaraeon ieuenctid yn lleol.

“Mae'n bleser gennym gefnogi Gwobrau Dinasyddion y Maer unwaith eto a helpu i gydnabod a gwobrwyo pobl sy'n llawn ysbrydoliaeth y mae eu hymdrechion anhunanol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n cymunedau.”

Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Matthew Crowley: “Gan mai dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i enwebu, hoffwn annog pawb sy'n gwybod am rywun yn eu cymuned sy'n haeddu un o'r gwobrau hyn i roi gwybod i ni drwy ei enwebu – mae yna gymaint o bobl dda yn ein cymunedau na chânt glod am eu gwaith yn aml, felly manteisiwch ar y cyfle hwn i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei llawn haeddu.”

Categorïau a noddwyr y gwobrau :

Gwobr Cymydog Da...Associated British Ports

Gwirfoddolwr y Flwyddyn ...NPTCVS

Gwobr yr Amgylchedd a Threftadaeth

Gwobr Plentyn Dewr ...Trade Centre Wales

Gwobr y Celfyddydau Perfformio...Buffoon Media

Gwobr Cefnogi Addysg

Seren Chwaraeon y Flwyddyn ...Clwb Rygbi Aberafan

Pencampwr Cymunedol...Aberafan Shopping Centre

Gwobr Iechyd a Llesiant ...Centregreat

Gwobr Dewrder Eithriadol...Llanelec Precision Engineering

Gwobr Cyfraniad i Elusen...Tata Steel

Gwobr Gofalwr Ifanc


Canllawiau'r Categorïau:

Gwobr Cymydog Da
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n mynd allan o'i ffordd i helpu'r rhai sy'n byw o'i gwmpas? Enwebwch yr unigolyn hwnnw er mwyn iddo gael ei wobrwyo am bopeth y mae'n ei wneud. Gallai fod yn un person unigol sy'n edrych ar ôl rhywun ar ei stryd. Gallai fod yn grŵp o bobl sy'n gwneud gwahaniaeth gyda'i gilydd yn eu hardal gyfagos. Esboniwch pwy maen nhw'n ei helpu, a sut, a pham rydych chi'n credu eu bod nhw'n haeddu gwobr.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Ar agor i unigolyn neu grŵp o wirfoddolwyr o unrhyw oed sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i'w cymuned leol. Esboniwch pam rydych chi'n credu bod eu gwaith mor bwysig, a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud.

Gwobr yr Amgylchedd a Threftadaeth
Ar agor i unigolyn neu grŵp o bobl y mae eu gwaith neu eu gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd neu'n treftadaeth leol. O grwpiau neu unigolion sy'n helpu i lanhau traethau, i'r bobl hynny sy'n frwd dros hyrwyddo a diogelu ein treftadaeth leol werthfawr, dylai eich enwebiadau esbonio pam rydych chi'n credu bod eu gwaith mor bwysig ac o fudd i bob un ohonom.

Gwobr Plentyn Dewr
Ar agor i blant neu bobl ifanc o dan 18 oed sydd wedi dangos dewrder eithriadol. Efallai eu bod wedi brwydro yn erbyn y ffactorau i oresgyn heriau neu wedi dangos cryfder a phenderfyniad drwy gyfnod anodd.
Sut rydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan eu dewrder?

Gwobr y Celfyddydau Perfformio
Mae Castell-nedd Port Talbot yn falch o'i sector Celfyddydau Perfformio bywiog. Mae'r wobr hon ar agor i enwebiadau ar gyfer unigolion, grwpiau neu gymdeithasau. Rhowch wybodaeth gefndir am y person neu'r grŵp rydych chi'n ei enwebu a nodwch gyflawniadau a chynnydd allweddol.

Gwobr Cefnogi Addysg
Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae athrawon a staff wedi dangos gofal, ymroddiad a phenderfyniad anhygoel er mwyn cefnogi pobl ifanc drwy gyfnod heriol. Dyma eich cyfle chi i gydnabod a diolch i athro, athrawes neu aelod o staff sydd wedi eich helpu chi neu rywun yn eich teulu i lwyddo.

Seren Chwaraeon y Flwyddyn
Enwebwch seren, clwb neu dîm chwaraeon lleol sydd wedi cyflawni rhywbeth arwyddocaol ym myd y campau, boed ar lefel leol neu genedlaethol, neu hyd yn oed ar lefel ryngwladol.  Dywedwch wrthym am eu cyflawniadau a pham rydych chi'n credu eu bod nhw'n arbennig.

Pencampwr Cymunedol
Ar agor i unigolion neu grwpiau o bobl sydd wedi gweithio i wella bywyd cymunedol. Beth bynnag maen nhw'n ymwneud ag ef, dewch i ni gydnabod eu hymdrechion a'u hymroddiad â'r wobr hon. Dywedwch wrthym am eu gweithredoedd, eu hymroddiad a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud.

Gwobr Iechyd a Llesiant
Ar agor i grwpiau, sefydliadau neu unigolion lleol y mae eu gwaith, eu gweithredoedd neu eu gweithgarwch ymgysylltu'n helpu i hybu iechyd a llesiant. Dywedwch wrthym am yr hyn maen nhw'n ei wneud a phwy maen nhw'n ei helpu.

Gwobr Dewrder Eithriadol
Gellir dangos dewrder mewn llawer o ffyrdd. O weithredoedd sy'n achub bywydau i oresgyn adfyd a heriau personol. Pwy yw'r person mwyaf dewr rydych chi'n ei adnabod? Enwebwch yr unigolyn hwnnw a dewch i ni gydnabod ei gyflawniadau.

Gwobr Cyfraniad i Elusen
Bydd y wobr hon yn talu teyrnged i berson neu grŵp arbennig y mae ei waith dros elusen neu achosion da wir yn gwneud gwahaniaeth. O godi arian i waith gwirfoddol ymroddedig, dywedwch wrthym beth sy'n gwneud y sawl rydych chi'n ei enwebu mor arbennig.

Gwobr Gofalwr Ifanc
Mae llawer o bobl ifanc yn ein hardal yn cyflawni rôl hollbwysig ym mywydau beunyddiol eu teuluoedd drwy gyflawni dyletswyddau gofalu. Iddyn nhw, efallai y bydd gofalu am riant neu frawd neu chwaer bob bore cyn mynd i'r ysgol neu'r coleg yn ymddangos yn normal. Iddyn nhw, bydd yr ymdeimlad cyson o gyfrifoldeb a dyletswydd yn bresennol drwy'r amser. Bydd y wobr hon yn tynnu sylw at waith gofalwyr ifanc sy'n aml yn anweledig yn ein cymunedau.

hannwch hyn ar: