Datganiad I'r Wasg
Galwad Olaf! Nifer Cyfyngedig o Leoedd ar ôl ar gyfer Ras 10k a 5k Parc Margam 2025!
12 Mawrth 2025
Mae amser yn brin i gofrestru ar gyfer digwyddiad yr edrychir ymlaen ato yn fawr, sef Ras 10k a 5k Parc Margam!
Bydd y digwyddiad hwn, a gaiff ei gynnal yn lleoliad godidog Parc Gwledig Margam, yn cynnig cyfle unigryw i fwynhau ymarfer corff iachusol yn un o'r parciau gwledig mwyaf hanesyddol a hardd yn y DU.
Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i gofrestru, a nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly peidiwch â cholli eich cyfle i fod yn rhan o'r digwyddiad cyffrous hwn – a noddir yn garedig gan Trade Centre Wales.
Gall rhedwyr ddewis rhwng llwybrau tir cymysg 10k a 5k gan helpu i godi arian i Gronfa Gyffredinol Podiatreg Treforys a Chronfa Nyrsys Ardal CNPT, sy'n rhan o Elusen Iechyd Bae Abertawe.
Gyda chastell trawiadol, ceirw'n crwydro'n rhydd a golygfeydd ysblennydd, mae Parc Margam ym Mhort Talbot eisoes yn annwyl iawn i lawer o bobl. Adlewyrchwyd hyn yn ddiweddar pan gafodd Parc Margam ei gydnabod yng ngwobrau mawreddog People's Choice am yr 11eg flwyddyn yn olynol.
Mae Ras 10k Margam, a gynhelir ar 1,000 erw o barcdir gogoneddus, yn cynnig digwyddiad heb ei debyg, harddwch naturiol, hanes, bywyd gwyllt ac amrywiaeth eang o weithgareddau llawn hwyl i deuluoedd a gwylwyr, sy'n ei wneud yn un o'r diwrnodau allan gorau yng Nghymru.
Cofrestrwch yma heddiw http://www.margamcountrypark.co.uk/10k
i gael bod yn rhan o'r digwyddiad cyffrous hwn! Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner dydd, ddydd Gwener 14 Mawrth.
Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot eleni, y Cyngh. Matthew Crowley: “Mae hwn yn gyfle gwych i'n trigolion lleol a phobl o bell fwynhau her gorfforol a golygfeydd sy'n ddigon i fynd â'ch gwynt.
“Ar yr un pryd, gallant helpu i godi arian i'r elusennau rwyf wedi'u henwebu eleni – dau achos teilwng iawn sy'n darparu gwasanaethau hanfodol.”
Ychwanegodd Cadeirydd a Sylfaenydd Trade Centre wales, Mark Bailey: “Fel cwmni a chyflogwr lleol blaenllaw, mae Trade Centre Wales yn falch o fod yn rhan o'r gymuned leol ac mae'n bleser gennym gefnogi Ras 10k a 5k Parc Margam unwaith eto.
“Edrychwn ymlaen at gwrdd â rhedwyr o bob rhan o dde Cymru ar 16 Mawrth a diolch iddynt ymlaen llaw am helpu elusennau'r Maer.”
Y prif fanylion:
• Cofrestru o 9am ymlaen yng Nghastell Margam
• Bydd y rasys 10k a 5k yn dechrau am 10am
• Noder: mae'r llwybr yn un tir cymysg sy'n cynnwys llwybrau coetir a llethrau. Mae'n gallu mynd yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb!
• Parcio am ddim i bobl sy'n cymryd rhan. Bydd y prif faes parcio a'r ddesg gofrestru ar agor o 9:00am ymlaen. Bydd y rasys 10k a 5k yn dechrau am 10:00
• Rhaid bod yn 14 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y digwyddiad i gymryd rhan
• Bydd pob rhedwr yn cael medal 10k Parc Margam 2025 ar y llinell derfyn!
Mae Cronfa Gyffredinol Podiatreg Treforys yn rhoi hyfforddiant er mwyn sicrhau bod gan staff y wybodaeth orau a mwyaf cyfredol am ffyrdd o ddiwallu anghenion cleifion, ynghyd â thechnoleg, peiriannau ac arloesedd wedi'u huwchraddio.
Mae Cronfa Gyffredinol Nyrsys Ardal Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys y Clinig Clwyfau yng Nghanolfan Adnoddau Castell-nedd Port Talbot. Mae’r gronfa'n galluogi cyfleoedd ym myd addysg er mwyn helpu staff i ddatblygu a gwella profiad cleifion yn ogystal ag archwilio offer arbenigol er mwyn helpu'r clinig i roi'r gofal gorau posibl.