Datganiad I'r Wasg
Yn cyflwyno Jake Dorgan – Maer Ieuenctid newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot
12 Mawrth 2025
Mae Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Frances O’Brien, wedi urddo Jake Dorgan, sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Castell-nedd, yn Faer Ieuenctid y cyngor ar gyfer 2025/26.
Yn ei araith yn y seremoni urddo, a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot yr wythnos diwethaf, addawodd Jake y bydd yn defnyddio ei gyfnod yn y swydd i dynnu sylw at faterion amgylcheddol, gweithio i wneud CNPT yn lle mwy cynhwysol, a gwneud gwaith ymchwil i dlodi plant a'r rhesymau pam nad yw rhai disgyblion yn mynychu'r ysgol.
Hefyd yn y seremoni, urddwyd May Al Jadouh, o Sandfields, Port Talbot, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Joseff Sant, yn Ddirprwy Faer Ieuenctid.
Ymunodd May â'r Cyngor Ieuenctid y llynedd ac mae'n frwdfrydig dros fynd i'r afael â hiliaeth a gwella bywydau pobl ifanc yn CNPT. Fel aelod o Gyngor Ieuenctid CNPT, mae May wedi bod yn weithgar iawn yn cwrdd â phobl ifanc o Glwb Ieuenctid Sandfields, yn cwrdd ag uwch-arweinwyr o fyd addysg ac yn cyflwyno materion i aelodau'r Cabinet.
Addawodd Jake i gefnogi'r Dirprwy Faer Ieuenctid newydd dros y flwyddyn sydd i ddod, a gwnaeth hefyd dalu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan Faer Ieuenctid blaenorol CNPT, Gracie Jones, yn ystod ei blwyddyn yn y swydd.
Wrth siarad am y Maer Ieuenctid sy'n gadael, dywedodd Jake: "Hoffwn ddiolch i Gracie am fod yn ysbrydoliaeth anhygoel a bod yn fentor i mi wrth baratoi ar gyfer y rôl hon, gan ddangos i mi sut i ymddwyn fy hun a mwynhau ehangder llawn y cyfleoedd i greu newid fel Maer Ieuenctid.
"Rydyn ni wedi bod yn y Cyngor Ieuenctid gyda'n gilydd yr holl ffordd drwodd, felly bydd gweld ymadawiad Gracie o'r rôl hon yn golled enfawr ond rwy'n gwybod na fydd hi'n stopio nes bod ei thargedau yn cael eu cyrraedd."
Ychwanegodd Jake: “Rwy'n addo cynrychioli lleisiau pobl ifanc ledled y rhanbarth mewn modd aeddfed, parchus ac ystyriol. Mae'r cyfle hwn yn anrhydedd enfawr i mi a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gyflawni'r rôl hon hyd eithaf fy ngallu.
“Credaf fod yr amgylchedd yn hanfodol i ddatblygiad pobl ifanc ac felly byddaf yn defnyddio fy safle ac yn gweithio gyda chyd-aelodau o'r Cyngor Ieuenctid i ddod o hyd i ffyrdd o wella'r sefyllfa hon er budd pobl ifanc.
“Mae camau breision wedi cael eu cymryd tuag at sicrhau diwydiant mwy gwyrdd, a bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn arwain at lawer o gysylltiadau ym maes ynni gwyrdd yn y Môr Celtaidd. Rwyf am dreulio fy mlwyddyn yn annog cydnabyddiaeth i'r cyfleoedd hyn sydd ar ddod, gan ddangos bod gyrfaoedd medrus ar gael yma yn CNPT ac nid dim ond i ffwrdd mewn lleoedd fel Bryste neu Lundain.
“Ar ben hynny, credaf yn gryf mewn tegwch a chydraddoldeb ac, yn rhinwedd fy rôl fel Maer Ieuenctid, byddaf yn cydweithio'n agos â grwpiau cymorth a'm cymheiriaid fel rhan o'r Cyngor Ieuenctid i ymdrechu i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lle mwy cynhwysol – a'm prif nod fydd mynd i'r afael â phroblem gynyddol ymddygiad gwrthgymdeithasol tuag at grwpiau lleiafrifol mewn ysgolion.
“Rwyf hefyd yn credu bod mwy o waith i'w wneud i helpu pobl ifanc sydd mewn tlodi. Hoffwn wneud hyn law yn llaw â'm gwaith ar ddatblygu cynaliadwy. Credaf hefyd fod gwaith y gall y Cyngor Ieuenctid ei wneud er mwyn helpu pobl ifanc i deimlo'n fwy cyfforddus ac awyddus i fynd i'r ysgol.”