Datganiad I'r Wasg
Mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Eisteddfod yr Urdd 2025
13 Mawrth 2025
Diolch i gefnogaeth ariannol o £200,000 gan Lywodraeth Cymru mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gadarnhau bydd teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Rwy’n meddwl ei bod hi wir yn bwysig y bydd teuluoedd ag incwm is yn cael cynnig mynediad rhad ac am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2025. Mae’r fenter hon yn sicrhau fod gan bawb gyfle i brofi’r digwyddiad rhagorol hwn, ac yn gallu dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Mae’r ffaith fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Barc Margam yn newyddion gwych i’n rhanbarth ni. Mae harddwch naturiol bendigedig Parc Margam a’i arwyddocâd hanesyddol yn golygu ei fod yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad mor nodedig. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i fwynhau’r holl hwyl a dathlu, ac er ein bod ni wrth ein bodd i allu cynnig mynediad am ddim i deuluoedd incwm is, hoffem hefyd annog pawb sy’n gallu i brynu tocyn!”
Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol sy’n ein galluogi i gynnig Eisteddfod i Bawb ym Mharc Margam. Mae’r cynnydd mewn costau byw yn rhoi straen mawr ar deuluoedd, ac rydym eisiau sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli allan ar brofiadau drwy’r Urdd.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymraeg ac yn ffordd wych i deuluoedd ddefnyddio, clywed a phrofi'r iaith. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae'r cyllid hwn yn sicrhau na fydd rhwystrau ariannol yn atal teuluoedd rhag mwynhau Eisteddfod yr Urdd. Rydym yn falch o gefnogi'r Urdd a helpu mwy o bobl i gysylltu â'r Gymraeg drwy'r digwyddiad pwysig hwn.”
Mae’r Urdd eisoes wedi ymrwymo i gynnig mynediad am ddim i Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth i deuluoedd ac unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth talebau cinio ysgol am ddim, grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol.
Yn arwain at yr Eisteddfod, bydd yr Urdd hefyd yn cyd-weithio â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadu sydd yn cefnogi teuluoedd incwm isel i sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pobl gall elwa o’r cynllun.
Mi fydd tocynnau mynediad i’r Maes yn mynd ar werth 19 Mawrth a thocynnau cyw cynnar ar gael tan 1 Mai. Bydd modd i deuluoedd incwm is hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd fel a ganlyn:
- Trwy gynllun Aelodaeth £1 yr Urdd. Bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau.
- Trwy wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf wrth hawlio tocynnau. Bydd manylion llawn y meini prawf ar gael ar y wefan.
Cynhelir yr ŵyl rhwng 26 a 31 Mai 2025. Bydd modd prynu tocynnau neu hawlio tocyn mynediad am ddim i’r ŵyl drwy fynd i www.urdd.cymru/eisteddfod.