Datganiad I'r Wasg
Pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot sydd wedi profi gofal yn croesawu cynllun i ddirwyn elw i ben ym maes gofal i blant
19 Mawrth 2025
Pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot sydd wedi profi gofal yn croesawu cynllun i ddirwyn elw i ben ym maes gofal i blant
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddeddfu i ddileu elw o ofal preswyl a maeth i blant.
Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, dan arweiniad pobl sydd wedi profi gofal a gofalwyr maeth yr awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i aros mewn cyswllt â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a’u hysgol
Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn eu hardal. Serch hynny, dim ond 31 y cant o bobl ifanc oedd yn derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol arhosodd yn lleol, gyda saith y cant yn cael eu symud allan o Gymru’n llwyr.*
Dywedodd person ifanc o Gastell-nedd Port Talbot, oedd wedi derbyn gofal gan deulu maeth y tu allan i’w chymuned leol cyn hyn: “Mae hi wir yn bwysig i aros yn lleol. Mae gyda ni lawer i ymdopi ag e heb orfod symud i le dieithr a gwneud ffrindiau newydd.
“Doeddwn i ddim yn gwybod sut i fynd o gwmpas yr ardal, felly doeddwn i ddim yn gadael y tŷ. Os ydw i’n byw’n lleol, mae fy nghriw cefnogi yno’n barod. Dwi’n gallu defnyddio grwpiau a digwyddiadau sy’n helpu fy iechyd meddwl.”
Yng Nghymru, mae dros saith mil o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar nod uchelgeisiol o recriwtio dros 800 o deuluoedd maethu newydd erbyn 2026, er mwyn darparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Harris, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Blant a Theuluoedd:
“Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam arwyddocaol ymlaen i sicrhau fod y system ofal yn blaenoriaethu llesiant ein pobl ifanc o flaen elw.
“Drwy gadw plant mewn cyswllt â’u cymunedau lleol, gallwn ni roi’r sefydlogrwydd a’r gefnogaeth angenrheidiol iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu ffynnu.”
I gael mwy o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://cnpt.maethucymru.llyw.cymru/