Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Ymuno â Sefydliadau Cyhoeddus yng Nghymru i Ymrwymo i Ffordd Newydd o Weithredu sy'n

19 Mawrth 2025

Mae sefydliadau ledled Cymru wedi llofnodi siarter sy'n golygu eu bod yn ymrwymedig i fod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol yn eu hymateb i drasiedïau cyhoeddus.

Neath Port Talbot Council Joins Welsh Public Organisations in Pledging New Approach Focused on the Bereaved and Survivors of Public Tragedies

Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth yn sgil Trasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y bydd cyrff cyhoeddus yn ymwneud â theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, gan sicrhau y caiff gwersi eu dysgu o drychineb Hillsborough yn 1989 a'r hyn a ddigwyddodd yn ei sgil, er mwyn atal pobl yr effeithir arnynt gan drasiedïau cyhoeddus yn y dyfodol rhag mynd drwy'r un profiad.

Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub Cymru, i gyd wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth a'r gymuned yn dilyn digwyddiad difrifol, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.

Caiff digwyddiad lansio ei gynnal ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth (18 Mawrth), ac ymhlith y rhai a fydd yn bresennol bydd yr Esgob James Jones, a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i adroddiad ar wersi i'w dysgu o drasiedi Hillsborough. Hefyd yn bresennol bydd goroeswyr a phobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil trasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion, ac Aberfan, a ddigwyddodd filltiroedd yn unig i ffwrdd o leoliad y digwyddiad lansio.

 “Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau y caiff goroeswyr a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn sgil trasiedïau cyhoeddus eu trin ag urddas, tosturi, a pharch. Drwy lofnodi'r siarter hon, rydyn ni'n ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol yn ein hymateb i ddigwyddiadau difrifol, gan sicrhau y bydd y bobl yr effeithir arnynt yn cael y cymorth y bydd ei angen arnynt. Mae dysgu o drasiedïau'r gorffennol yn hanfodol, a safwn gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ein hymrwymiad i sicrhau mai pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn.”

Dywedodd yr Esgob Jones: “Heddiw, mae Cymru'n arwain y ffordd wrth i fwy na 50 o'i chyrff cyhoeddus lofnodi'r siarter. Drwy wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac maent yn ymrwymo o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus a pharchu dynoliaeth y rhai y gelwir arnom i'w gwasanaethu.

“Mae'r siarter yn cynrychioli addewid i beidio â gadael i neb ddelio â galar a goroesi ar ei ben ei hun yn dilyn trasiedi yn y dyfodol, ac i sicrhau na fydd neb yn dioddef 'agwedd nawddoglyd pŵer anatebol' eto.

“Mae hon yn adeg dyngedfennol yn oes y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac ymrwymo i barchu dynoliaeth ei holl ddinasyddion, sef yr hyn a ddylai fod wrth wraidd pob gwasanaeth cyhoeddus.”

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chadeirydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru, Dawn Docx: “Rydyn ni'n cydnabod bod cydweithredu wrth gefnogi teuluoedd y mae trasiedi gyhoeddus wedi effeithio arnynt yn hanfodol er mwyn sicrhau lles a chadernid ein cymunedau.

“Drwy gydweithio â'n gilydd, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau cyfunol i roi cymorth ystyrlon i'r rhai mewn angen yn ystod cyfnodau o argyfwng a thu hwnt.”

Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis: “Drwy lofnodi'r siarter hon, mae pob un o'r sefydliadau'n gwneud datganiad cyhoeddus y byddant yn dysgu gwersi trychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill er mwyn sicrhau na fyddwn byth yn colli golwg ar safbwynt teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, a sicrhau y cânt eu trin â gofal a thosturi, a hynny nid yn unig ar adeg yr argyfwng ond yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd wedyn hefyd.

“Er bod heddiw'n garreg filltir, yr her wirioneddol fydd gwreiddio'r siarter yn ein hyfforddiant a'n diwylliant er mwyn sicrhau y daw'n rhan annatod o'n hymateb i unrhyw drasiedi gyhoeddus.

“Mae cyfraniad goroeswyr a phobl sydd wedi cael profedigaeth yn sgil trasiedïau cyhoeddus wedi bod yn ddylanwad enfawr tuag at gymryd y cam pwysig hwn ymlaen heddiw.

 “Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau y caiff goroeswyr a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn sgil trasiedïau cyhoeddus eu trin ag urddas, tosturi, a pharch. Drwy lofnodi'r siarter hon, rydyn ni'n ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol yn ein hymateb i ddigwyddiadau difrifol, gan sicrhau y bydd y bobl yr effeithir arnynt yn cael y cymorth y bydd ei angen arnynt. Mae dysgu o drasiedïau'r gorffennol yn hanfodol, a safwn gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ein hymrwymiad i sicrhau mai pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn.”

hannwch hyn ar:

Rhannu eich Adborth