Datganiad I'r Wasg
Cyngor yn buddsoddi £67.7m o arian cyfalaf i atal llifogydd, gwella cymdogaethau a mwy
Mae'r erthygl hon yn fwy na 3 mis oed
07 Ebrill 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu buddsoddi £67.7m er mwyn gwneud amrywiaeth o fesurau gwella, gan gynnwys atal llifogydd, gwella ysgolion, cryfhau pontydd, rhoi arwynebau newydd ar heolydd, a rhaglenni gwariant cyfalaf eraill.
Mae gwario cyfalaf yn buddsoddi mewn asedau hirdymor fel adeiladu ysgolion newydd neu wella adeiladau sy’n bodoli eisoes, ac er mwyn adeiladu neu ddiweddaru isadeiledd fel llwybrau, heolydd a phontydd.
Daw’r rhan fwyaf o arian ar gyfer prosiectau cyfalaf o ffynonellau allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ond bu’r cyngor yn eithriadol lwyddiannus wrth ddenu cyllid o ffynonellau eraill.
Ymhlith y rhain mae’r Gronfa Ffyniant Bro (LUF) sy’n gweithredu ar draws Prydain, a’i nod yw gwella bywyd beunyddiol yn y Deyrnas Unedig.
Yn eu cyfarfod ar 2 Ebrill 2025, cymeradwyodd aelodau Cyngor Castell-nedd Port Talbot y Strategaeth Gyfalaf a’r rhaglen wario o 2025/26 i 2027/28 sy’n cynnwys (ymysg llawer mwy):
- £100,000 ar gyfer gwaith gwella pompren Heol Milland Castell-nedd.
- £294,000 ar gyfer cryfhau Pont Cwm Nedd.
- £100,000 i wella pafiliynau yn ein parciau a gerddi.
- £1.4m ar y gwaith parhaus i ddiweddaru cyfleusterau Parc Gwledig Ystâd Gnoll.
- £1.7m ar waith peiriannu a phriffyrdd cyffredinol.
- £3m ar grantiau cyfleusterau i bobl anabl er mwyn helpu pobl anabl i allu aros yn eu cartrefi.
- £75,000 ar gyfleusterau parcio i ymwelwyr â Mynachlog Nedd.
- £2.1m i dalu am gynnal a chadw ysgolion Castell-nedd Port Talbot.
- £350,000 ar gyfer gwaith yn Ysgol Gyfun Llangatwg.
- £6m a glustnodwyd ar gyfer YGG Rhosafan (sydd yn y cam ymgynghori cyn mynd at y cam cynllunio ar hyn o bryd).
- £100,000 tuag at y sinema yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe
Hefyd eleni, bydd £5m yn cael ei glustnodi i Raglen Wella Cymdogaethau newydd, fydd yn darparu prosiectau cyfalaf ar raddfa fechan ledled Castell-nedd Port Talbot (heb fod yr un prosiect yn costio dros £100,000).
A bydd y gwaith o ailddatblygu Theatr y Dywysoges Frenhinol a’r sgwâr dinesig ym Mhort Talbot, fydd yn costio miliynau lawer o bunnoedd, yn cychwyn hefyd, gyda’r arian yn dod o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Mae’r cyngor yn rhoi pwysau mawr ar fuddsoddi cyfalaf fel dull o adfywio ein cymunedau a darparu adeiladau ac isadeiledd modern a diogel.
“Nid yn unig mae buddsoddi cyfalaf yn arwain at well cyfleusterau ac isadeiledd, ond mae hefyd yn creu swyddi a manteision economaidd i bobl a busnesau ledled trefi, cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot.”
Daw buddsoddiad cyfalaf arall drwy gyfrwng Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda Chastell-nedd Port Talbot yn arwain ar raglen bellgyrhaeddol Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel a’r rhaglen dechnoleg werdd Cartrefi Fel Pwerdai (HAPS). Dyma ddau o’r wyth prosiect sy’n rhan o raglen y Fargen Ddinesig.
I weld y Rhaglen Wario Cyfalaf yn llawn, ewch i https://democracy.npt.gov.uk/documents/s104876/COUNCIL0503255REP-%20Capital%20Programme%202025-2028.pdf