Datganiad I'r Wasg
Opsiynau arfaethedig ar gyfer dyfodol Camlesi Castell-nedd a Thennant i gael eu harddangos
11 Ebrill 2025
Bydd cyfres o gyflwyniadau’n cael eu cynnal ar 9 Mehefin 2025 yn The Towers Hotel & Spa ar gyfer yr Adroddiad Arfarniad Opsiynau hirddisgwyliedig ynghylch Camlesi Castell-nedd a Thennant.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £113,850 oddi wrth fenter Lleoedd Treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer cam datblygu prosiect Canal Connections/ Cysylltiadau Camlesi.
Nod y prosiect hwn yw adfywio’r system gamlesi yn ased cymunedol hygyrch ar gyfer hamdden a theithio llesol. Nod arall y prosiect yw sefydlu’r system gamlesi fel cyrchfan treftadaeth y mae’n rhaid ymweld â hi sy’n cysylltu cymunedau lleol.
Er nad yw’r cyngor yn berchen ar y camlesi, mae’n dymuno meithrin y partneriaethau gweithio sy’n angenrheidiol i hwyluso adfywio’r asedau treftadaeth ac amgylcheddol allweddol hyn, er budd ein cymunedau, ein hecosystemau bywyd gwyllt ac economi’r ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant,: “Mae’r camlesi’n galluogi preswylwyr i ailgysylltu â natur a’r cymunedau ar hyd eu glannau, gan gysylltu canol y dref ag ardaloedd yn y cymoedd.
“Cydnabyddir yn gyffredinol mor bwysig yw’r lleoliadau hyn ar gyfer iechyd a llesiant pobl, am y gellir gwella’r dyfrffyrdd hyn er mwyn darparu llecynnau glas glân ar gyfer gweithgareddau hamdden lleol, ac i ddarparu lle ble mae bioamrywiaeth gyfoethog yn ffynnu.”
Yn dilyn ymarferiad ymgynghori cymunedol diweddar, datblygodd yr ymgynghorwyr peirianneg sifil AtkinsRéalis astudiaeth ddichonolrwydd drylwyr yn archwilio darpar ddefnydd cynaliadwy i’r dyfodol ar gyfer Camlesi Castell-nedd a Thennant, gan gydnabod eu harwyddocâd a’u treftadaeth unigryw, a’r hyn y gallent gynnig i’r bobl a’r cymunedau ar hyd eu glannau.
Mae’r astudiaeth yn rhan o brosiect Canal Connections/ Cysylltiadau Camlesi.
Gall cymunedau a phreswylwyr weld â’u llygaid eu hunain yr opsiynau a’r argymhellion a gyflwynir yn yr astudiaeth – a amlinellir yn yr Adroddiad Arfarniad Opsiynau – yn ystod un o ddwy sesiwn gyflwyno sy’n digwydd am 2.00pm a 4.00pm yng ngwesty a sba’r Towers.
Mae croeso i bawb fynychu a chymryd rhan ar y cyd mewn datblygu dyfodol cynaliadwy cam wrth gam ar gyfer y dyfrffyrdd hyn sydd mor annwyl gan gynifer.