Datganiad I'r Wasg
Bron i £5m yn cael ei gymeradwyo er mwyn gwella ffyrdd, troedffyrdd a phontydd ledled Castell-nedd Port Talbot
14 Ebrill 2025
Bydd rhaglen bellgyrhaeddol o welliannau gwerth bron i £5m sy'n cynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar lwybrau troed, ffyrdd, pontydd a systemau draenio ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol yn cael ei chyflawni eleni.
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- £1.3m ar atgyfnerthu a gwella pontydd ac adeileddau eraill
- £2.042m ar drin wynebau ffyrdd cerbydau
- £495,000 ar waith i wella systemau draenio
- £344,000 ar fân waith, traffig, lleoedd parcio i bobl anabl a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
- £142,500 ar drin wynebau troedffyrdd
- £130,000 ar wella lonydd gwledig
- Bydd arian arall yn cael ei wario ar atgyweirio ffyrdd a llenwi tyllau, ac ar waith cynnal a chadw a mesurau cysylltiedig eraill gan gynnwys gwaith diogelwch ar y ffyrdd.
Gwnaeth y Cabinet gymeradwyo'r gwaith – y Rhaglen Gwaith Priffyrdd a Pheirianneg (2025/26) – yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 9 Ebrill, 2025.
Mae rhan o'r rhaglen yn cynnwys tua £1m ar gyfer gwaith i atgyfnerthu pont ffordd hanfodol Ffordd Heilbronn yng nghanol Port Talbot, gwaith ar systemau draenio a chwlfertau ym Mhontardawe, a rhoi wyneb newydd ar y B4434 Tonna Bends.
Caiff y gwelliannau sy'n rhan o'r rhaglen eu gwneud ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol.
Dywedodd y Cyngh. Scott Jones, sef yr Aelod Cabinet dros Strydlun: “Yn ogystal â gwneud i'n trefi, ein cymoedd a'n pentrefi edrych yn well, bydd y rhaglen hon yn sicrhau y bydd rhwydwaith diogel a chydnerth o ffyrdd a llwybrau troed yn parhau i gael ei ddarparu ledled Castell-nedd Port Talbot.”
Wrth baratoi'r rhaglen waith ddrafft, gwnaeth swyddogion y cyngor ystyried adroddiadau archwilio gan swyddogion technegol ac arolygon eraill, yn ogystal â ffactorau fel adborth gan gynghorwyr a'r cyhoedd ynglŷn â phryderon yn y gymuned. Mae blaenoriaeth wedi cael ei rhoi i waith hanfodol.
Mae'r cyllid yn cynnwys benthyciadau gyda chymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith priffyrdd o dan y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol (bydd hyn yn amodol ar achos cyfiawnhad busnes sydd wedi cael ei gyflwyno).
Bydd arian arall yn cael ei wario ar atgyweirio ffyrdd a llenwi tyllau, ac ar waith cynnal a chadw a mesurau cysylltiedig eraill gan gynnwys gwaith diogelwch ar y ffyrdd.
Gallwch chwilio am fanylion y Rhaglen Gwaith Priffyrdd gynhwysfawr yn eich ardal chi drwy glicio yma:
Works Programme 2025-26 App C - Detailed Programme Draft Rev1.pdf