Datganiad I'r Wasg
Agor miliynau o arian newydd Llywodraeth Prydain i ymgeiswyr o Gastell-nedd Port Talbot!
14 Ebrill 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio tri chyfle i gael cyllid sy’n werth £4.25m oddi wrth Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) ar gyfer parhau i hybu busnesau lleol, treftadaeth, diwylliant, lleihau troseddu, tyfu busnesau a mentrau cymunedol eraill.
Daw’r tair cronfa dan y penawdau isod, ac maen nhw bellach ar agor i dderbyn ceisiadau:
Cronfa Ffyniant Cymunedol
Cyfanswm y gronfa: £1m
Grantiau: £5,000 - £50,000 (hyd at £100,000 mewn achosion arbennig).
Dyddiad Cau i Fynegi Diddordeb: 9 Mai 2025.
Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais Llawn: Hanner dydd 30 Mai 2025
Ffocws: Iechyd, llesiant, lleihau troseddu, ymlyniant cymunedol, a digartrefedd.
Manylion cyswllt: communityprosperityfund@npt.gov.uk
Cronfa Ffyniant Busnes
Cyfanswm y gronfa: £1.25m
Grantiau: £500 - £10,000.
Dyddiad cau i wneud Ceisiadau: amrywiol – cysylltwch â’r tîm os gwelwch yn dda.
Ffocws: Twf busnes, gwella eiddo, effeithiolrwydd, creu swyddi, ac arloesi.
Manylion cyswllt: businessgrants@npt.gov.uk
Cronfa Ffyniant Lle
Cyfanswm y gronfa: £2m
Grantiau: Hyd at £250,000 ar gyfer Treftadaeth, Diwylliant, ac Ymyriadau Strategol Twristiaeth
- Hyd at £150,000 ar gyfer Treftadaeth, Diwylliant, ac Ymyriadau Strategol Twristiaeth ar raddfa fechan.
- Hyd at £10,000 ar gyfer Treftadaeth a Digwyddiadau Diwylliannol.
- Hyd at £250,000 ar gyfer Prosiectau Cyfalaf Adfywio.
Dyddiad Cau i Fynegi Diddordeb: 9 Mai 2025.
Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais Llawn: Hanner dydd 30 Mai 2025
Ffocws: Treftadaeth, diwylliant, twristiaeth, digwyddiadau, a phrosiectau adfywio.
Manylion cyswllt: place@npt.gov.uk.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, y Cynghorydd Jeremy Hurley: “Yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn, hoffwn bwyso ar ein preswylwyr, busnesau a sefydliadau lleol i fanteisio’n llawn ar y cylch diweddaraf hwn o arian oddi wrth yr UKSPF.
“Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i hybu twf economaidd, i wella golwg ein trefi, ein cymoedd a’n pentrefi, ac i gynorthwyo ystod eang o brosiectau llesiant cymunedol.”
Yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26, clustnodwyd £14.3m i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ei wario ar brosiectau sy’n canolbwyntio ar:
- Cymunedau a Lle – ymysg y themâu mae cymunedau iach, diogel a chynhwysol, gwella iechyd, lleihau trosedd a gofid am drosedd, dod â chymunedau at ei gilydd, taclo digartrefedd, datblygu’r economi ymwelwyr, ynghyd â gwelliannau i ganol trefi a’r stryd fawr mewn trefi.
- Cefnogi Busnesau Lleol – Hybu diwylliant entrepreneuraidd, darparu cefnogaeth i fusnesau gan gynnwys gyda safleoedd busnes ac eiddo arall.
- Pobl a Sgiliau – Cyflogadwyedd.
Ariennir y prosiectau hyn gan Lywodraeth Prydain drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).