Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Symleiddio Digwyddiadau a Chyfleoedd Ffilmio yn CNPT!

16 Ebrill 2025

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei gwneud hi'n haws nag erioed cynllunio a chynnal digwyddiadau drwy gyflwyno Polisi Digwyddiadau newydd sydd bellach ar waith.

Streamlining Events and Filming Opportunities in NPT!

Cafodd y polisi ei fabwysiadu'n ffurfiol yn dilyn cyfarfod o'r Cabinet ym mis Awst 2024, ar ôl adolygiad manwl o'r ffordd y caiff digwyddiadau a gwyliau eu cynnal yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae wedi cael ei lansio y mis hwn.

Mae'r Cyngor wedi sefydlu tîm newydd i gefnogi trefnwyr digwyddiadau a chwmnïau ffilmio. Bydd y tîm yn gweithredu fel ‘siop un stop’ ar gyfer yr holl ymholiadau ynglŷn â digwyddiadau a ffilmio yn y Fwrdeistref Sirol, er mwyn helpu i symleiddio'r broses o gynllunio digwyddiadau, gwella diogelwch, a chefnogi'r sector.

Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef yr Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, “Mae'r polisi hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran y ffordd y caiff digwyddiadau, gwyliau, a ffilmio eu rheoli ledled y Fwrdeistref Sirol.

Nid yn unig y bydd y polisi'n cynnig proses gefnogol a thryloyw i drefnwyr, ond bydd hefyd yn sicrhau y bydd digwyddiadau'n ddiogel, yn cael eu rheoli'n dda, ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at dwf economaidd, at lesiant ein cymunedau, ac at ddenu ymwelwyr i'r ardal. 

Rydym yn edrych ymlaen at fwrw ati'n syth gan fod y tîm newydd ar waith erbyn hyn. Byddwn yn annog pob trefnydd digwyddiad i fwrw golwg dros y Polisi Digwyddiadau newydd, a chysylltu â'r tîm newydd ag unrhyw ymholiadau.

Ymhlith y newidiadau allweddol sydd yn y Polisi Digwyddiadau mae:

  • Cyngor a chymorth: Caiff y swyddfa Digwyddiadau a Ffilmio newydd ei harwain gan dîm o weithwyr proffesiynol profiadol sy'n cynnig arweiniad ac yn gweithio'n agos gydag adrannau mewnol y Cyngor, fel yr adran Briffyrdd, i symleiddio'r broses o wneud cais i drefnu digwyddiad.
  • Tudalen we a phwynt cyswllt arbennig: Mae tudalen lanio newydd ar gyfer digwyddiadau wedi cael ei datblygu ar wefan Cyngor CNPT, gan gynnig ‘adnodd un stop’ i drefnwyr digwyddiadau. Mae'n cynnwys gwybodaeth allweddol, y diweddaraf o'r diwydiant, porth talu, a chanllawiau er mwyn helpu i gynllunio digwyddiadau.
  • Ffioedd a thaliadau: Caiff system ffioedd strwythuredig ei chyflwyno i'w defnyddio ar dir y Cyngor, gan sicrhau dull teg a thryloyw ar gyfer digwyddiadau masnachol ac nid-er-elw. Mae'n bosibl y codir taliadau eraill ar gyfer gwasanaethau fel cau ffyrdd, rheoli gwastraff, atal parcio, ac adfer tir.

Mae'r fenter hon yn pwysleisio ymrwymiad y Cyngor i feithrin rhaglen o ddigwyddiadau bywiog a chynaliadwy a fydd o fudd i drigolion a busnesau, ac yn denu ymwelwyr.

I ddarllen y Polisi Digwyddiadau yn llawn, cliciwch yma...(link to be added)

I archwilio'r dudalen we newydd ar gyfer digwyddiadau a ffilmio, cliciwch yma:

www.npt.gov.uk/cy/swyddfa-digwyddiadau-a-ffilm

www.npt.gov.uk/event-and-film-office

Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â'r Swyddfa Digwyddiadau a Ffilmio yn specialevents@npt.gov.uk neu filming@npt.gov.uk.

 

 

hannwch hyn ar:
Streamlining Events and Filming Opportunities in NPT!