Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Mynnwch leisio eich barn ar ddyfodol Marchnad Gyffredinol Castell-nedd

16 Ebrill 2025

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penodi cwmni dylunio pensaernïol arbenigol i gynyddu apêl Marchnad Gyffredinol Castell-nedd.

Marchnad dan do Castell-nedd

Bydd Roberts Limbrick, sydd wedi gweithio gyda marchnadoedd dan do eraill ledled Cymru a Phrydain, yn casglu barn preswylwyr, masnachwyr, busnesau canol y dref ac eraill er mwyn symud y farchnad yn ei blaen, ond ar yr un pryd barchu’i threftadaeth a’r ymdeimlad o’i lle wrth galon Castell-nedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet y Cyngor dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae’r farchnad wedi bod ynghanol bywyd cymunedol yma ers iddi agor ar Green Street yn ôl yn 1837. Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddyfodol y farchnad oherwydd y rôl bwysig y mae’n chwarae yn economi canol y dref gan ddarparu rhywbeth unigryw yn lleol i breswylwyr ac i ymwelwyr.

“Mae hefyd yn darparu cartref i amrywiaeth o fusnesau bach a lleol, gan gynnwys hen bethau, dillad, cig a dofednod ffres, ffrwythau a llysiau, nwyddau i’r cartref, trin gwallt, trin ewinedd, bwyd i anifeiliaid anwes a mwy.

“Bydd Roberts Limbrick yn gofyn am adborth oddi wrth bob rhan o’r gymuned ynghylch ffyrdd o symud y farchnad yn ei blaen, felly hoffwn erfyn arnoch i gymryd rhan yn y broses os ydych chi’n dymuno dweud eich dweud dros y misoedd i ddod.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Mae Marchnad Castell-nedd yn fwy na dim ond lle i fynd i siopa; mae’n gonglfaen treftadaeth y dref, ac yn rhan hanfodol o’n heconomi leol. Drwy ymgysylltu â phreswylwyr, masnachwyr, a busnesau, ein nod yw sicrhau y bydd y farchnad yn parhau i ffynnu ac esblygu. Mae eich mewnbwn chi’n amhrisiadwy, felly hoffwn ofyn i chi achub ar y cyfle i roi ffurf ar ddyfodol ein marchnad sydd mor annwyl i bawb.”

Rhennir yr arolwg drwy’r cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau cymunedol lleol a’r cyfryngau’n lleol, yn ogystal ag yn y farchnad ei hunan ac mewn mannau cyhoeddus eraill gan gynnwys Canolfan Hamdden Castell-nedd a Llyfrgell Castell-nedd.
I lenwi’r arolwg ewch i: https://www.smartsurvey.co.uk/s/ArolwgMarchnadGyffredinolCastell-nedd/


Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF)

 

hannwch hyn ar: