Datganiad I'r Wasg
Agor Parc Lles Glyn-nedd yn Swyddogol Wedi Ailddatblygiad Gwerth
Mae'r erthygl hon yn fwy na 7 mis oed
23 Ebrill 2025
Mae un o’r prosiectau ailddatblygu parc cymunedol mwyaf yng Nghymru wedi cael ei orffen yn swyddogol a’i agor i’r cyhoedd.
Mae Parc Lles Glyn-nedd wedi gweld trawsnewidiad o bwys diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Tref Glyn-nedd, sawl ariannwr allweddol, a chefnogaeth oddi wrth Dîm Datblygu ac Ariannu Prosiectau Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae’r ailddatblygiad, sydd wedi costio £817,860, wedi creu lle modern, cynhwysol ar gyfer preswylwyr o bob oedran, ac fe’i agorwyd yn swyddogol gan y diddanwr sy’n hanu o Lyn-nedd, Max Boyce MBE a Maer Tref Glyn-nedd, y Cynghorydd Julian Bulman.
Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys parc chwarae i blant ar safle’r hen lawnt bowlio, sy’n cynnwys weirenni zip, trampolinau, cwrs rhaffau, siglenni, chwyrligwgan cynhwysol, a ‘heol’ a gynlluniwyd ar gyfer seiclo a sgwtio.
Cafodd tri chwrt tenis eu hadnewyddu’n llwyr, ond ailbwrpaswyd pedwerydd cwrt fel ardal gemau aml-ddefnydd ar gyfer pêl-droed, hoci a phêl-rwyd. Mae parc yr arddegwyr bellach yn cynnwys weiren zip ddwbl, dringwr conau, cylchdrowr, siglenni a chysgod i ieuenctid.
Dywedodd Maer Tref Glyn-nedd, y Cynghorydd Julian Bulman: "Rydyn ni’n hollol wrth ein bodd o weld yr ailddatblygiad ym Mharc Lles Glyn-nedd yn cael ei orffen. Dyma ardal hanfodol i’r gymuned a drawsnewidiwyd yn lle bywiog, cynhwysol a fydd o fudd i breswylwyr o bob oedran am flynyddoedd i ddod. Mae’r cyngor tref yn eithriadol ddiolchgar i’r holl arianwyr a phartneriaid a barodd fod hyn yn bosib – mae’n llwyddiant rhagorol i Lyn-nedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Simon Knoyle, Arweinydd y Prosiect ar ran Cyngor Tref Glyn-nedd ac Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Y prosiect hwn oedd fy mlaenoriaeth bennaf pan gefais fy ethol gyntaf ym mis Mai 2017. Mae hi wedi cymryd wyth mlynedd i ni gyflawni Cam Un o’r prosiect uchelgeisiol hwn. Rwyf wrth fy modd gyda’r hyn rydyn ni wedi llwyddo i’w gyflawni gyda chefnogaeth yr arian Grantiau Cymunedol rhagorol a ddarparwyd.
“Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer Cam Dau eisoes ar y gweill, ac rydyn ni’n gobeithio gweld cynnydd gyda hynny o fewn y deuddeg i ddeunaw mis nesaf. Roedden ni eisiau creu gwaddol, i beri fod y parc hwn, Parc Lles y Glowyr, yn ganolbwynt i’r gymuned unwaith eto ble mae pawb yng Nglyn-nedd yn gallu dod i fwynhau.”
Gwnaed y prosiect yn bosib diolch i gefnogaeth ariannol sylweddol oddi wrth Gronfa Fudd Cymuned Maes Gwyn (£395,000) a Chronfa ‘Weledigaeth’ Pen y Cymoedd (£393,240.10) gydag arian ychwanegol yn dod oddi wrth Gyngor Tref Glyn-nedd (£13,518), Grant Prosiectau Cymunedol Bychain Cyngor Castell-nedd Port Talbot (£10,000) a Chronfa Fudd Cymunedol Selar (£6,101.90).
Dywedodd Huw Richards, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp yn Walters: “Mae Grŵp Cwmnïau Walters yn falch iawn o fod wedi gweithio ar y cyd â nifer o bartneriaid er mwyn hwyluso darparu’r cynllun hirddisgwyliedig hwn ym Mharc Lles Glyn-nedd.
“Mae’n cynnig cynifer o fanteision i gymaint o sectorau’r gymuned leol, yr ydym ni fel busnes a leolir yn lleol wedi bod mewn cyswllt â hi ers blynyddoedd lawer.”
Dywedodd Kate Breeze, cyfarwyddwr gweithredol Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd: “Pleser o’r mwyaf yw gweld Parc Lles Glyn-nedd yn cael ei fwynhau gan blant o bob oedran ar ôl cymaint o waith caled o du’r cyngor tref a’i bartneriaid niferus.
“Mae’r parc yn ganolbwynt i bobl Cwm Nedd, ond roedd gwir angen ei ddiweddaru er mwyn ei gadw fel amgylchedd defnyddiol a hwyliog i blant a phobl ifanc. Creu’r cyfle i ddatblygu mannau y gellir eu mwynhau gan gymuned am genedlaethau i ddod yw union bwrpas y gronfa hon.”
Cefnogwyd yr ailddatblygiad gan Dîm Datblygu ac Ariannu Prosiectau Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy’n helpu sefydliadau gwirfoddol a’r trydydd sector i ymgeisio am gymorth grant a rheoli prosiectau cyfalaf.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Rydyn ni’n falch o fod wedi cefnogi ailddatblygu Parc Lles Glyn-nedd, a fydd yn gaffaeliad rhagorol i’r gymuned. Dyma enghraifft wych o’r modd y gall ein Tîm Datblygu ac Ariannu Prosiectau helpu i sicrhau arian a chefnogi prosiectau allweddol yn y gymuned.”
Mae’r parc ar ei newydd wedd yn blaenoriaethu hygyrchedd a chynhwysiant, gydag offer chwarae a gynlluniwyd i fod yn addas ar gyfer plant o bob gallu, gan sicrhau y gall pawb yn y gymuned fwynhau’r cyfleusterau gwell.