Datganiad I'r Wasg
Y cyngor yn cynnal Digwyddiad Cymorth i Landlordiaid
24 Ebrill 2025
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal digwyddiad am ddim ar gyfer landlordiaid sy'n gosod eiddo ar rent yn y fwrdeistref sirol. Nod y digwyddiad hwn yw rhoi gwybodaeth werthfawr am y cymorth a'r cyfleoedd cyllido sydd ar gael.
Caiff y Digwyddiad Cymorth i Landlordiaid ei gynnal yn Neuadd y Dref Castell-nedd (1-2 Maes yr Eglwys, Castell-nedd, SA11 3LL) ddydd Mawrth 13 Mai rhwng 4pm a 7pm.
Bydd siaradwyr gwadd o Rhentu Doeth Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn bresennol i rannu eu harbenigedd. Bydd hyn yn cynnwys arweiniad ar ddelio â phroblemau cyffredin a Chynllun Lesio Cymru, sef cynllun sy'n cynnig taliadau rhent wedi'u gwarantu am 5 i 20 mlynedd. Bydd cyfle hefyd i rwydweithio â landlordiaid eraill a siarad yn uniongyrchol â gwasanaethau cymorth eraill.
Bydd amserlen y digwyddiad yn cynnwys:
- 4pm – 5pm: Sesiwn galw heibio anffurfiol lle y bydd cyfle i siarad ag arbenigwyr a fydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad
- 5pm – 6pm: Cyflwyniadau gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl a Rhentu Doeth Cymru
- 6pm – 7pm: Sesiwn galw heibio anffurfiol lle y bydd cyfle i siarad ag arbenigwyr a fydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad
Mae'r digwyddiad wedi'i fwriadu ar gyfer landlordiaid sefydledig sydd â phortffolio o eiddo rhent, landlordiaid newydd a landlordiaid damweiniol (pobl sydd wedi dod yn berchen ar gartref yn annisgwyl ac yn gallu ei osod ar rent).
Dywedodd y Cyngh. Alun Llewelyn, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Dai a Diogelwch Cymunedol: “Mae'r Digwyddiad Cymorth i Landlordiaid yn gyfle i landlordiaid gael gwybod sut y gallant gael gwybodaeth ac adnoddau hanfodol a allai fod yn fuddiol iawn iddynt.
“Gwyddom fod landlordiaid preifat yn cyflawni rôl sylfaenol yn y sector tai lleol ac rydyn ni'n awyddus i gydweithio'n agos â nhw.”
I sicrhau eich lle yn y digwyddiad, e-bostiwch Sarah Maybery-Thomas, s.maybery-thomas@npt.gov.uk.