Datganiad I'r Wasg
‘Dihangfa wyrth’ y teulu rhag bom amser rhyfel – rhan o’n prosiect atgofion milwrol
07 Mai 2025
Wrth i ni nesu at 80-mlwyddiant Diwrnod VE, sy’n wyth degawd ers dod â’r Ail Ryfel Byd i ben yn Ewrop, mae Tess Phillips o Bort Talbot yn rhannu’i hatgofion am ddihangfa wyrthiol rhag un o fomiau’r Almaen.
Pan oedd hi ond chwech oed, clywodd ei mam sain fygythiol awyrennau bomiau’r Almaenwyr yn agosáu uwch eu cartref yn Stryd Oakwood, Port Talbot.
Oherwydd nad oedd unrhyw rybudd am gyrch awyr, ni aeth teulu Tess i’w Lloches Anderson yn yr ardd gefn – y strwythurau haearn rhychiog parod a fyddai’n cael eu claddu o dan y ddaear, a daeth yn symbol eiconig o wytnwch y Rhyfel.
Dywedodd Tess: “Funud yn ddiweddarach roedd fflach enfawr a bang a daeth darnau o’r nenfwd i lawr. Rhedodd fy nhad i mewn a dweud – maddeuwch fy iaith – ‘roedd hwnna’n bl*di agos!’ Ac roedd e’n iawn – roedd y bom yn ein gardd gefn! Tasen ni wedi cael rhybudd, bydden ni wedi bod yn y cysgod, a bydden ni wedi cael ein lladd.”
Mae Tess yn un o blith nifer o bobl sy’n rhannu’u hatgofion am dreftadaeth filwrol falch Castell-nedd Port Talbot. Os oes gyda chi stori, ffotograff neu wybodaeth i’w rannu, fel Tess, bydden ni wrth ein bodd o glywed oddi wrthych – e-bostiwch: armedforces@npt.gov.uk .
Ar y tudalennau hyn fe welwch gasgliad o ffotograffau, fideos a straeon gan bobl o’n cymunedau lleol. Mae’n rhan o ymdrech barhaus i gasglu a rhannu gwybodaeth er mwyn cofnodi ein treftadaeth filwrol a thalu teyrnged i’n cymuned Lluoedd Arfog ddoe a heddiw.
Mae’r tudalennau’n cynnwys cyfweliad gyda Tess, a ddaeth maes o law yn fam-gu, ac mae hi bellach yn cyfansoddi barddoniaeth am orffennol Port Talbot – gan gynnwys yr adeg y bu iddi hi a’i theulu, yn ieithwedd y cyfnod, bron â’i “bought it” pan darodd y bom yn union ar eu Cysgod Anderson gwag.
Bu Tess, sydd wedi cadw darn o’r shrapnel o’r ffrwydrad fel rhywbeth i gofio ar gyfer y teulu, yn hel atgofion am y modd y tarwyd ei chartref gan gyfres o fomiau’r Luftwaffe, wrth i un lanio ar Fryn Tŷ-draw, ac un arall ar westy’r Grand (a osgôdd unrhyw niwed) ac un arall yn taro seidins rheilffordd gerllaw.
Ychwanegodd hi: “Ychydig yn ddiweddarach, daeth yr Arglwydd a’r Fonesig Fletcher o Gastell Margam i ymweld â ni, a chafodd fy mrawd a minnau hanner coron yr un. Wedyn daeth lori a llenwi twll y bom â thywod – roedd fy mrawd a minnau wrth ein bodd o gael ein traeth ein hunain!”
Bu Maer Castell-nedd Port Talbot y Cynghorydd Matthew Crowley’n cyfweld â Tess ar gyfer y casgliad atgofion milwrol ar ôl cwrdd â hi yng Ngŵyl Lluoedd Arfog Castell-nedd Port ynghynt yn y flwyddyn.
Meddai ef: “Dyna oedd dihangfa ryfeddol wedi’i hadrodd yn afaelgar gan Tess, sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am ei hatgofion o gael ei magu ym Mhort Talbot. Roedd hi’n hyfrydcwrdd â hi a chlywed o lygad y ffynnon am sut y bu i deulu o’r dref osgoi cael eu lladd o drwch blewyn.”