Datganiad I'r Wasg
Gardd Gymunedol Sandfields yn Agor yn Swyddogol
02 Mehefin 2025
Mae gardd gymunedol newydd wedi cael ei hagor yn swyddogol yn Sandfields, gan nodi’r garreg filltir ddiweddaraf mewn ymdrech i ddod â phobl ynghyd, lleihau profiadau ynysig a gwella llesiant yn yr ardal.
Cafodd yr ardd, a ddatblygwyd ar lecyn glas segur y tu ôl i Lyfrgell Sandfields, ei datgelu’n swyddogol yr wythnos hon gan y Cynghorydd Jo Hale, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, ac Alan Roberts, preswylydd lleol a Chadeirydd Cyfeillion Cymuned Sandfields.
Dan arweiniad y Cydlynydd Ardal Leol Aled Davies a chefnogaeth ystod eang o breswylwyr lleol, gwirfoddolwyr a phartneriaid, mae’r ardd yn benllanw dros ddwy flynedd o ddatblygiad dan arweiniad y gymuned yn Sandfields. Mae’n dilyn llwyddiant gweithio law yn llaw â’r bore coffi, y sesiynau picio i mewn wythnosol amlasiantaethol, ‘Llyfrgell Pethau’ gyntaf yr ardal, ac yn fwy diweddar, pantri bwyd newydd a chaffi trwsio.
Bydd yr ardd bellach yn darparu llecyn croesawgar i bobl allu cwrdd, tyfu cynnyrch ffres a chefnogi bioamrywiaeth – a bydd yr holl gynnyrch ar gael i breswylwyr lleol ei fwynhau.
Ariannwyd y prosiect hwn gan Leoedd Lleol ar gyfer Natur Cadw Cymru’n Daclus (pecyn mawr iawn) a ddarparodd adnoddau a gwybodaeth Roger Key a helpodd y gwirfoddolwyr i adeiladu’r ardd.
Yn ôl y Cynghorydd Jo Hale: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ragorol o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl leol yn cael eu grymuso a’u cefnogi i gymryd yr awenau yn eu cymunedau. Mae’r ardd yn fwy na llecyn glas – mae’n cynrychioli cyswllt, pwrpas a balchder. Fy mraint fu derbyn y gwahoddiad i agor yr ardd a gweld â’m llygaid fy hunan gymaint y mae’n ei olygu i’r rhai sy’n rhan o’r prosiect.”
Cefnogwyd y prosiect gan ystod eang o sefydliadau gan gynnwys Cadw Cymru’n Daclus, Tai Tarian, Coed Cadw, Morrisons, cynghorwyr lleol, Coastal, CJ Construction, Credydau Amser Tempo, Partneriaeth Fwyd Gymunedol NPT, y Loteri Genedlaethol, a disgyblion a staff o ysgol Awel-y-môr.
Yn ogystal â chefnogi pobl mewn angen yn y gymuned, bydd Cydlynwyr Ardal Leol hefyd yn helpu i gychwyn grwpiau cymunedol lleol sy’n rhoi budd i breswylwyr lleol ac yn eu helpu i dyfu.
I gael mwy o wybodaeth am Gydlynwyr Ardal Leol yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i:
👉 https://www.npt.gov.uk/cy/gwasanaethau-cymdeithasol-oedolion/help-yn-y-cartref/cydlynwyr-ardaloedd-lleol/