Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Rhithdaith Newydd yn Ehangu Mynediad i Ystafell Datrysiadau Digidol Castell-nedd Port Talbot

02 Mehefin 2025

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio rhithdaith 360° ar-lein newydd sbon o'i Ystafell Datrysiadau Digidol arloesol, gan roi cyfle i drigolion archwilio'r cyfleuster o gysur eu cartrefi eu hunain.

Rhithdaith Newydd yn Ehangu Mynediad i Ystafell Datrysiadau Digidol Castell-nedd Port Talbot

Mae'r Ystafell Datrysiadau Digidol wedi'i lleoli yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cimla, ac mae'n ofod penodedig lle y gall ymwelwyr ddarganfod amrywiaeth eang o dechnoleg glyfar brif ffrwd sydd wedi'i dylunio er mwyn helpu pobl i fyw'n annibynnol. Mae'r ystafell yn cynnig cyngor arbenigol, asesiadau anghenion digidol, a chymorth parhaus i drigolion, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a grwpiau cymunedol.

 

Ers iddi agor ym mis Awst 2023, mae'r ystafell wedi croesawu mwy na 250 o ymwelwyr ac mae wedi dod yn hyb gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol ledled y fwrdeistref sirol.

 

Cafodd y rhithdaith newydd ei datblygu er mwyn sicrhau y bydd pobl na allant ymweld â'r safle—oherwydd problemau symudedd, pellter neu rwystrau eraill—yn dal i allu archwilio'r ystafell a dysgu am y technolegau sydd ar gael. Gall defnyddwyr symud drwy'r gofod rhyngweithiol ar-lein a chlicio ar ddyfeisiau unigol er mwyn gweld fideos arddangos a grëwyd gan Dîm Galluogi Digidol y Cyngor.

 

Mae mwy na 25 o fideos byr wedi cael eu ffilmio, gan arddangos amrywiaeth o ddyfeisiau gan gynnwys plygiau clyfar, unedau Amazon Echo, clychau drws Ring, bylbiau clyfar, tegellau Wi-Fi, cloeon drws electronig, a sugnwyr llwch clyfar.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jo Hale, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion: “Mae'r Ystafell Datrysiadau Digidol eisoes wedi helpu llawer iawn o bobl i gael profiad ymarferol o'r dechnoleg glyfar sy'n gallu gwneud bywyd beunyddiol yn haws ac yn fwy hydrin.

 

“Drwy lansio ein rhithdaith newydd, gallwn nawr ymestyn y cymorth hwnnw ymhellach fyth, gan sicrhau y bydd mwy o drigolion—yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd ymweld wyneb yn wyneb o bosibl—yn dal i allu cael cyngor arbenigol ac archwilio manteision ymarferol dyfeisiau digidol. Mae hyn yn gam pwysig tuag at hybu annibyniaeth, llesiant a chynhwysiant digidol y ein holl gymunedau.”

 

I archwilio'r rhithdaith, ewch i: https://www.npt.gov.uk/cy/gwasanaethau-cymdeithasol-oedolion/help-yn-y-cartref/datrysiadau-digidol-taith-o-amgylch-y-swit/

 

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (#CFfGDU #UKSPF)

hannwch hyn ar: