Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Rhaid i yrrwr dalu £1,717 wedi i wastraff o ystafell ymolchi gael ei dipio’n anghyfreithlon ger safle picnic

03 Mehefin 2025

Arweiniodd darganfod llawer o wastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon ger safle picnic yng Nghastell-nedd, gan gynnwys celfi ystafell ymolchi, at weld gyrrwr fan yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe, ar ôl i breswylwyr pryderus alw Tîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Y gwastraff a ddarganfuwyd yn Tonna, Castell-nedd

Yn y llys ddydd Iau 29 Mai 2025, cafodd Richard Marc Holland, 47, o Heol Jersey, Bôn-y-maen, ddirwy o £153 a gorchymyn i dalu costau o £1,500 a gordal dioddefwr o £61 ar ôl iddo bledio’n euog i drosedd dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Er na welwyd y diffinydd yn gadael y gwastraff yno, mae Adran 33(5) o’r Ddeddf hon yn sefydlu fod y person sy’n rheoli cerbyd sy’n cludo gwastraff a reolir yn cael ei ystyried i fod yn ymwybodol achosi i’r gwastraff gael ei adael, hyd yn oed heb gyfarwyddyd penodol, os gadewir y gwastraff oddi ar y cerbyd.

Mae hyn yn golygu fod y person sy’n rheoli’r cerbyd yn gyfrifol am adael y gwastraff yn anghyfreithlon, waeth a roddwyd gorchymyn personol ganddo i adael y gwastraff ai peidio.

Darganfuwyd y gwastraff ddydd Mawrth 18 Hydref 2022, ger Cronfa Ddŵr Mosshouse, Heol Fairyland, Tonna, Castell-nedd, pan godwyd amheuaeth ymysg nifer o bobl oedd yn gwybod fod yr ardal yn fan a ffafriwyd gan dipwyr anghyfreithlon, wedi i fan arllwys oedd yn cario celfi ystafell ymolchi gael ei gweld gerllaw safle’r gronfa ddŵr.

Yn ddiweddarach, fe ddaethon nhw ar draws gwastraff oedd wedi’i adael yn anghyfreithlon gerllaw’r safle picnic, oedd yn cynnwys toiled wedi torri, sinc a sgriniau cawod. Anfonodd y tystion ffotograffau o’r gwastraff a manylion y cerbyd at y Tîm Gorfodi Gwastraff.

Canfu gwaith ymchwil gan ddau o swyddogion Gorfodi Gwastraff y cyngor fod y gwastraff oedd wedi’i adael wedi dod o gartref ble adnewyddwyd yr ystafell ymolchi, a llwyddwyd i ddod o hyd i berchennog y cerbyd.

Dywedodd y perchennog fod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio adeg y drosedd gan Richard Marc Holland a fynychodd gyfweliad yn ddiweddarach gyda swyddogion Gorfodi Gwastraff yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd.

Yn y cyfweliad, er iddo dderbyn ei fod yn gyfrifol am y fan ar ddiwrnod y drosedd, gwadodd iddo adael y gwastraff, gan honni ei fod wedi mynd ag ef i sgip. Dywedodd wrth swyddogion “Rhaid bod rhywun wedi rhoi’r gwastraff yn ôl yn y cerbyd, mas o’r sgip, a theithio i’r lleoliad a’i adael.”

Arweiniodd hyn at gyhuddiad dan Adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, fel y gwelir uchod, a phlediodd y diffinydd yn euog i’r cyhuddiad yn y llys.

Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd am weithredu er budd y gymuned drwy ddod â’r mater hwn i’n sylw yn y lle cyntaf.

“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd yn erbyn ein hamgylchedd a byddwn ni wastad yn ceisio erlyn naill ai yn y llys neu drwy Hysbysiad Cosb Benodedig. Rydyn ni’n cymryd y broblem genedlaethol hon o ddifri calon, a byddwn ni’n parhau i weithredu agwedd dim goddef.”

hannwch hyn ar: