Datganiad I'r Wasg
Rhaglen Haf o Hybu Lles Newydd yn Lansio ym Mharc Gwledig Craig Gwladus
04 Mehefin 2025
Bydd rhaglen newydd o weithdai creadigol a gweithgareddau lles yn lansio yr haf hwn ym Mharc Gwledig Craig Gwladus yn Aberdulais, Castell-nedd, gyda'r nod o helpu pobl i gysylltu â byd natur, dysgu sgiliau newydd, a chefnogi eu hiechyd meddwl.
Menter Haf o Hybu Lles yw'r gyntaf o'i math yng Nghraig Gwladus ac mae'n bosibl diolch i gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y rhaglen ar agor i oedolion â phob lefel o brofiad, a bydd yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau creadigol a therapiwtig wedi'u lleoli yng nghoetir heddychlon y parc.
Caiff gweithgareddau eu cynnal drwy gydol yr haf a dechrau'r hydref, gan gynnwys ysgrifennu creadigol, gwehyddu helyg, myfyrio, creu inciau naturiol, a darlunio â siarcol. Mae pob un o'r sesiynau wedi'u dylunio i helpu'r cyfranogwyr i arafu, defnyddio eu synhwyrau, a mwynhau'r manteision iechyd meddwl sydd i'w cael drwy dreulio amser yn yr awyr agored.
Amserlen y rhaglen:
Gwehyddu Eich Basged Helyg Eich Hun
Dydd Llun 23 Mehefin | 6:30pm – 9:00pm
Dydd Llun 30 Mehefin | 6:30pm – 9:00pm
Dydd Llun 7 Gorffennaf | 6:30am – 9:00pm
Straeon o'r Llwybrau: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Dydd Llun 23 Mehefin | 6:30pm – 8:30pm
Dydd Llun 30 Mehefin | 6:30pm – 8:30pm
Dydd Llun 7 Gorffennaf | 6:30pm – 8:30pm
Myfyrio
Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf | 8am – 9am
Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf | 8am – 9am
Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf | 8am – 9am
Creu Papur o Blanhigion Gwyllt
Dydd Llun 14 Gorffennaf | 6:30pm – 8:30pm
Dydd Llun 21 Mehefin | 6:30pm – 8:30pm
Ymlacio a Llifo
Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf | 9:30am – 11am
Dydd Sadwrn 2 Awst | 9:30am – 11am
Geiriau yn y Goedwig
Dydd Llun 15 Medi | 6:30pm – 8:30pm
Dydd Llun 22 Medi | 6:30pm – 8:30pm
Dydd Llun 29 Medi | 6:30pm – 8:30pm
Creu Inciau Naturiol
Dydd Llun 28 Gorffennaf | 6:30pm – 9pm
Darlunio â Siarcol
Dydd Mawrth 2 Medi | 2pm – 4pm
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae Parc Gwledig Craig Gwladus yn un o drysorau cudd Castell-nedd Port Talbot, ac mae'r rhaglen Haf o Hybu Lles newydd hon yn gyfle gwych i bobl fwynhau ei goetir heddychlon gan gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn eu hysbrydoli ar yr un pryd.
“Rydyn ni'n gwybod pa mor werthfawr y gall treulio amser ym myd natur fod i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a byddwn i'n annog trigolion i fanteisio i'r eithaf ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yr haf hwn.”
Bydd prisiau'r sesiynau'n amrywio o £8 i £35, gyda chyfraddau gostyngol i bobl sy'n cadw lle mewn mwy nag un gweithdy. Er mai ar gyfer oedolion (18+ oed) y mae'r rhaglen wedi'i bwriadu yn bennaf, gall pobl ifanc 16-18 oed ddod i sesiwn gydag oedolyn neu â chaniatâd rhiant.
I weld yr amserlen lawn a chadw lle mewn sesiwn, ewch i: https://mailchi.mp/npt/woodland-wellness