Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Golau gwyrdd i ddatblygu Aldi a Starbucks newydd yn Aberafan

10 Mehefin 2025

Mae cynigion ar gyfer siop fwyd Aldi a siop goffi Starbucks newydd ar dir segur a elwir yn lleol yn Iard Burrows yn Aberafan, Port Talbot, wedi cael eu cymeradwyo.

Argraff arlunydd o'r datblygiad newydd

Rhoddodd aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot rwydd hynt i’r datblygiad ynghynt yn y mis. Bydd yn golygu darparu 141 lle parcio, sawl dolen parcio beics a 18 pwynt gwefru Cerbydau Trydan (EV).

Bydd y siop Starbucks yn cynnwys cyfleuster gyrru drwodd ynghlwm wrtho. Mae’r caniatâd cynllunio’n cynnwys gwaith tirlunio a draenio hefyd, a mynediad ar i Ffordd Afan a Stryd y Dŵr.

Bydd y datblygiad newydd hefyd yn golygu manteision Teithio Llesol i Stryd y Dŵr. Bydd llwybr cerddwyr/beicio newydd o Stryd y Dŵr (3.5m o led) a llwybr troed wedi'i ledu ar hyd ochr ddeheuol Stryd y Dŵr (3.2m o led).

Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Bydd y cynnig hwn yn arwain at ailddatblygu tir sydd wedi bod hyd yn hyn yn anial, hyll, segur a gwag.

“Bydd y prosiect yn cyfrannu at greu ‘cyrchfan’ fwy ymarferol ar gyfer siopwyr sy’n teithio i Bort Talbot mewn car neu gan ddefnyddio teithio llesol.”

Dywedodd adroddiad swyddog cynllunio: “Ystyrir fod y cynnig yn cynrychioli ffurf dderbyniol ar ddatblygu sy’n integreiddio’n dda â’r cyd-destun trefol cyfagos, heb ddim effeithiau andwyol ar amwynder gweledol, amwynder preswyl, perygl o lifogydd neu ddraeniad, llygru tir, diogelwch ar y briffordd neu i gerddwyr, na bioamrywiaeth.”

Arweiniodd ymgynghoriad cyhoeddus at dderbyn 317 arwydd o gefnogaeth, a dim ond tri gwrthwynebiad. 

Dywedwyd wrth y pwyllgor cynllunio fod y datblygiad yn cyd-fynd â Chymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, sef y fframwaith datblygu cenedlaethol, sy’n gosod cyfeiriad datblygu yng Nghymru hyd at 2040.

Mae’r cynllun datblygu’n amlinellu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy gyfrwng y cynllun datblygu, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, cyflawni datgarboneiddio a gwytnwch hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a llesiant ein cymunedau.

 

 

hannwch hyn ar: