Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Y Cyngor mewn trafodaethau gyda The Range ynglŷn â'r posibilrwydd o feddiannu hen siop Wilko Castell-nedd
    06 Hydref 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi ei fod mewn trafodaethau manwl gyda'r manwerthwr nwyddau cartref, gardd a hamdden mawr The Range ynglŷn â chymryd les hen siop Wilko yng nghanol tref Castell-nedd, sydd bellach yn wag.

  • Arweinydd y Cyngor yn rhoi barn ar fargen ddur gwerth miliynau o bunnoedd a therfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru
    05 Hydref 2023

    Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, wedi mynegi ei farn yng nghyfarfod misol yr awdurdod ar 4 Hydref, 2023, ar gytundeb Llywodraeth y DU gyda Tata Steel UK i ddatgarboneiddio ei ffatri ym Mhort Talbot a therfyn cyflymder 20 mya dadleuol Llywodraeth Cymru.

  • Adolygiad Rhanbarth Pleidleisio ar y gweill
    05 Hydref 2023

    Ar hyn o bryd mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal adolygiad o'i holl Ardaloedd Pleidleisio, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio yn ardal y Fwrdeistref Sirol.

  • Parhewch i Sgwrsio – diwrnodau’n unig ar ôl i ddweud eich dweud!
    04 Hydref 2023

    Dim ond ychydig ddyddiau sy’n weddill o ymgyrch Parhewch i Sgwrsio Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gasglu adborth ar beth sydd fwyaf pwysig i bobl sy’n byw a gweithio yn y fwrdeistref sirol.

  • Cyngor yn mynegi pryderon ynghylch newidiadau eang i wasanaethau bysiau a fydd yn effeithio ar drigolion
    02 Hydref 2023

    Bydd gwasanaethau bysiau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu cwtogi ar ddiwedd mis Hydref, a bydd un yn cael ei ddiddymu'n llwyr yn ystod yr wythnos, wrth i'r cyngor a gweithredwyr bysiau fynd i'r afael â gostyngiad mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a lleihad mewn niferoedd teithwyr.

  • Cwblhau gwelliannau i ardal chwarae Parc Coffa Talbot
    02 Hydref 2023

    Mae prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i adnewyddu ac adfywio’r ardal chwarae ym Mharc Coffa Talbot ym Mhort Talbot wedi cael ei gwblhau.

  • Cyngor yn Dod Ynghyd ag Elusen ‘Gathering Place’ i Gryfhau Cefnogaeth i Deuluoedd
    28 Medi 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dod ynghyd ag elusen leol yng Nghastell-nedd i gynnig help llaw i deuluoedd sy’n wynebu heriau yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

  • Mal Pope i gyflwyno Cyngerdd y Cofio 2023 Maer Castell-nedd Port Talbot
    27 Medi 2023

    Bydd Cyngerdd y Cofio Maer Castell-nedd Port Talbot, sy’n dychwelyd i Theatr y Dywysoges Frenhinol ddydd Gwener 27 Hydref, yn cael ei gyflwyno gan y canwr, cyfansoddwr a chyflwynydd radio a theledu poblogaidd Mal Pope.

  • “Ar hyd y nos!” Dadorchuddio cerflun efydd o Max Boyce yn ei Lyn-nedd annwyl cyn bo hir
    26 Medi 2023

    Bydd cerflun ysblennydd o’r digrifwr, canwr a diddanwr Max Boyce yn cael ei ddatgelu yn nhref enedigol y cyn-löwr poblogaidd, Glyn-nedd, ar 30 Medi 2023.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn camu i’r adwy i ddiogelu gorymdeithiau Sul y Cofio
    25 Medi 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gweithredu i sicrhau parhad Gorymdeithiau Sul y Cofio yng Nghastell-nedd a Phort Talbot, sydd mor agos at galonnau cynifer o bobl.

Rhannu eich Adborth