Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ffurflenni ceisiadau cynllunio

Y ffordd hawsaf o wneud cais am ganiatâd cynllunio yw ar-lein trwy ddefnyddio Porth Cynllunio yng Nghymru.

Mae’r gwasanaeth ar-lein yn helpu’n awtomatig i benderfynu pa fath o ganiatâd cynllunio sydd ei angen, ac felly’n lleihau’r risg bod cais yn cael ei gyflwyno ar y ffurflen anghywir, ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd cais dilys yn cael ei gyflwyno y tro cyntaf. Mae hyn o fudd i’r ymgeisydd ac i staff yr Awdurdod sy’n prosesu’r cais, gan arwain yn y pen draw at gyflymu’r penderfyniad.

Mae canllawiau ar y wybodaeth genedlaethol a lleol sydd ei hangen er mwyn dilysu cais cynllunio ar gael yn nogfen Llywodraeth Cymru, Rhestrau Gofynion Dilysu Ceisiadau Cynllunio (yn Saesneg).

Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon

Os caiff cais cynllunio ei gyflwyno ar gyfer cynnig, ac yn cael ei nodi fel datblygiad a ganiateir, gofynnir i'r ymgeisydd gwblhau ffurflen gais Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, cyflwyno'r ffi amgen ostyngedig (dychwelir y ffi wreiddiol iddynt) a phenderfynir ar y cais fel Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon. Yna bydd gan y datblygwr y fantais penderfyniad cyfreithiol o ran statws cynllunio'r datblygiad. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd cyfreithiol iddo yn y dyfodol, megis pan fydd yn barod i werthu'r eiddo.

Gweithio am fwynau, sylweddau peryglus a gwrychoedd uchel

Gweithio am fwynau

Llawrlwythiadau

  • Mineral exploration prior notification form (PDF 70 KB)
  • Application for planning permission for the winning and working of minerals by underground operations (PDF 57 KB)
  • Standard mineral application form (PDF 231 KB)
  • Certificate pack (for certificates A-D inc. agricultural holding) (PDF 37 KB)
  • Notice under Article 10 (PDF 31 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Gwrychoedd uchel

Nol i ben y dudalen