Gorfodi Cynllunio
Mae gan y Cyngor bwerau i reoli datblygiad sydd heb ei awdurdodi, a gall gymryd camau ffurfiol i unioni achos o dorri’r rheolau cynllunio lle bo gwneud hynny’n hwylus ac er budd i’r cyhoedd.
Siarter Gorfodi Cynllunio
Ym mis Ionawr 2018 cymeradwyodd y Cyngor Siarter Gorfodi Cynllunio sy’n ceisio:
- Darparu trosolwg o’r system gorfodi cynllunio, gan gynnwys crynodeb o achosion posibl o dorri’r rheolau cynllunio
- Manylu ar y prosesau gorfodi a’r pwerau sydd ar gael i’r Cyngor
- Nodi polisïau a gweithdrefnau sy’n dangos sut bydd tîm Gorfodi Cynllunio CNPT yn delio gyda chwynion gorfodi mewn modd teg, rhesymol a chyson
- Manylu ar y safonau gwasanaeth yr ydym ni’n ymdrechu i’w cyflawni er mwyn sicrhau bod cwynion gorfodi’n derbyn sylw yn brydlon, a bod achwynwyr yn cael gwybod beth yw canlyniad ymchwiliadau o’r fath ar adegau priodol.
Llawrlwythiadau
Gwneud cwyn gorfodi cynllunio
Cyn i chi ddechrau
Darllenwch y Siarter Gorfodi Cynllunio.
Gallwch lanlwytho unrhyw ffotograffau perthnasol a allai fod o gymorth yn ein hymchwiliad.
Bydd angen:
- eich enw
- eich manylion cyswllt
- manylion am y broblem
Bydd manylion yr achwynydd yn parhau’n gyfrinachol ac na fyddant ar gael i’r cyhoedd. Pob ceisiadau ymdrin dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.