Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymholiadau cyn gwneud cais

Ein hymrwymiad gwasanaeth

Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflawni Datblygiad o Safon yn Gyflym'.

Rheoli datblygu

Mae dull y Cyngor o ymdrin â Rheoli Datblygu yn parhau i roi cryn bwys ar ddarparu’r cyngor gorau posibl i ddarpar ddatblygwr/ymgeisydd cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Ers 16 Mawrth 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn bod pob Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yng Nghymru yn darparu Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol. I adlewyrchu’r ddyletswydd newydd hon, mae’r ‘Protocol Gwasanaeth Cynllunio Cyn Ymgeisio’ wedi cael ei newid i gwmpasu’r gwasanaethau cyn ymgeisio canlynol a gynigir gan Gastell-nedd Port Talbot: -

  • Y Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol (Adran 5)
  • Darparu cyngor ychwanegol yn dilyn ymateb ysgrifenedig cychwynnol a dderbyniwyd o dan y gwasanaeth statudol (Adran 6.1)
  • Cyngor Anstatudol Cyn Ymgeisio (Adran 6.2)
  • Cytundebau Cynllunio Perfformiad (CCP) (Adran 6.3)
Sylwch fod yr Atodlen Codi Tâl isod wedi'i ddiweddaru o 23 Ebrill 2018

Bwriedir i’r ‘Protocol Gwasanaeth Cynllunio Cyn Ymgeisio’ gynrychioli’n rhagweithiol ddatganiad gwasanaeth y Cyngor ynghylch yr holl wasanaethau cyn ymgeisio a gynigir, p’un a godir tâl amdanynt neu beidio, gan gyflwyno nid yn unig y trefniadau talu, ond hefyd fanylion lefel yr wybodaeth y dylid ei chyflwyno ac ansawdd yr ymateb sydd i’w ddisgwyl wrth ymgysylltu â’r Cyngor mewn trafodaethau cyn ymgeisio.

Llawrlwytho

  • Planning pre-application service protocol (DOCX 79 KB)
  • Pre-application fee charging schedule (DOCX 41 KB)
  • Cais am gyngor anstatudol cyn ymgeisio (PDF 126 KB)
  • Ffurflen deisyfu cyngor cyn-ymgeisio statudol (PDF 127 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Mae "Canllaw Arfer: Gwireddu Potensial Trafodaethau Cyn Gwneud Ceisiadau Cynllunio" Llywodraeth Cymru yn dangos y pwys a roddir gan LlC ar wasanaethau cyn cyflwyno cais a all "wella ansawdd y ceisiadau a helpu i leihau'r amser a gymerir i ymdrin â chais ffurfiol."

Datblygiadau mawr

Noder: Nid yw'r protocol cyn ymgeisio yn cynnwys y Wybodaeth mewn perthynas â'r gofyniad ffurfiol i ddatblygwyr sy'n bwriadu 'datblygiad mawr' neu Ddatblygiadau o Bwys Cenedlaethol (DNS) i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio o dan Adran 17 o'r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Rhan 1A o Gynllunio  Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) Gorchymyn 2012 (fel y'i diwygiwyd).  Gellir cael cyngor mewn perthynas â Datblygiadau Mawr

Talu am ymholidau cyn gwneud cais

Cyngor cyn gwneud cais statudol 

Talu am cyngor cyn gwneud cais statudol

Cyngor cyn gwneud cais anstatudol

Talu am cyngor cyn gwneud cais anstatudol