Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwneud cais am reoliadau adeiladu

Mae Rheoliadau Adeiladu yn set o safonau ar gyfer dylunio a chodi adeiladau i sicrhau diogelwch ac iechyd y bobl sy'n defnyddio ac yn mynd o amgylch yr adeiladau hynny. Maent hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau bod tanwydd a phŵer yn cael eu harbed a bod cyfleusterau'n cael eu darparu ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae gennych gofyniad cyfreithiol i roi gwybod i'ch awdurdod Adain Rheoli Adeiladu lleol pan ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith adeiladu sy'n cael ei gwmpasu gan y Rheoliadau Adeiladu 2010 

Math gwahanol cais

Mae 3 math gwahanol cais sy'n gofyn am lefelau gwahanol o wybodaeth. 

Cynlluniau llawn

Dyma'r ffordd draddodiadol o hysbysu'r Awdurdod am y gwaith arfaethedig. Mae'n eich galluogi i gael cadarnhad bod y cynlluniau a'r manylebau arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau ac ar yr un pryd, mae'n ein hysbysu ni am y gwaith.

Ar ôl gwirio, bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn cydymffurfio, neu eitemau y mae angen eu hegluro, yn cael eu tynnu at sylw'r ymgeisydd neu'r asiant. Mae hyn yn caniatáu cyflwyno gwelliannau neu gynlluniau diwygiedig.

Yn ôl y Ddeddf Adeiladu, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniad ynghylch y cais o fewn pum wythnos ar ôl iddo gael ei gyflwyno, neu ddau fis os yw'r ymgeisydd yn cytuno â hyn. Fodd bynnag, rhoddir penderfyniad o fewn amser byrrach fel arfer.

Os bydd materion nad ydynt yn cydymffurfio'n parhau, ac mae rhaid gwneud penderfyniad, mae'n bosib y bydd angen gwrthod y cais. Yn yr un modd, gellir cyflwyno cymeradwyaeth amodol, gan ofyn am wybodaeth bellach neu fynnu bod newidiadau penodol yn cael eu gwneud i'r cynlluniau a gyflwynwyd.

Yn y naill achos neu'r llall, canlyniad cyflwyno manylion diwygiedig sy'n datrys materion, boed hynny ar gyfer cais a wrthodwyd neu gais a gymeradwywyd gydag amodau, fydd cymeradwyaeth lawn heb godi unrhyw dâl ychwanegol ar yr ymgeisydd.

Wrth gwrs, os bydd y cynlluniau'n dangos nad oes angen egluro unrhyw eitemau, byddant yn cael eu cymeradwyo'n llawn yn ddi-gwestiwn.

O ran dechrau'r gwaith dan sylw, gallwch wneud hynny 2 ddiwrnod ar ôl cyflwyno'r cais. Fodd bynnag, rhaid cadw mewn cof bod cychwyn gwaith heb gael caniatâd yn gyntaf yn cynnwys risg. Os canfyddir wedyn bod gwaith yn groes i'r rheoliadau, gallai olygu addasu'r gwaith hwnnw.

Argymhellir felly nad yw gwaith yn cychwyn tan i gynlluniau gael eu cymeradwyo.

Hysbysiad adeiladu

Hysbysiad i'r Cyngor am eich bwriad i gyflawni gwaith yw Hysbysiad adeiladu.

Mae'n ffurflen syml sy'n rhoi manylion sylfaenol am y prosiect. Os yw'r gwaith yn cynnwys codi adeilad neu estyniad, dylid amgáu cynllun bloc ar raddfa nad yw'n llai na 1:1250 gyda'r Hysbysiad.

Ni ellir defnyddio gweithdrefn yr Hysbysiad adeiladu os bydd y gwaith yn cael ei gyflawni ar adeilad a ddynodwyd dan Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 neu Reoliadau Rhagofalon Tân (Gweithle) (Gwelliant) 1999.

Ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys gwestai neu dai llety, ffatrïoedd, swyddfeydd, siopau ac adeiladau rheilffyrdd.

Fel yn achos y cyflwyniad Cynlluniau Llawn, efallai y byddwch yn dechrau gwaith ar ôl dau ddiwrnod o ddyddiad y blaendal.

Os bydd agweddau penodol ar yr adeiladu'n ansicr yn ystod y rhaglen archwilio, bydd cais yn cael ei wneud i archwilio manylion a chynlluniau.

Rheoleiddio

Mae'r math hwn o gais ar gyfer sefyllfa pan fyddwch wedi cyflawni gwaith heb gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.

Dylech nodi y gallai fod yn anodd gwerthu'r eiddo neu gael morgais newydd os ydych wedi cyflawni gwaith heb gael y gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu angenrheidiol yn gyntaf.

Os cwblhawyd y gwaith ar ôl 11 Tachwedd 1985, mae gweithdrefn y gallwch ei defnyddio i gael caniatâd ôl-weithredol.

Dylech gyflwyno dau gopi o gynlluniau sy'n dangos y gwaith cynt ac wedyn gyda manylion llawn am y gwaith adeiladu ynghyd â ffurflen gais rheoleiddio a'r ffî briodol.

Nid yw'r math hwn o ffî yn denu TAW ond mae'n 120% o'r ffî arferol (heb TAW) fel a nodwyd yn y tablau cyngor ar ffioedd.

Ar ôl i'ch cais gael ei dderbyn, bydd syrfëwr yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â'r adeilad i werthuso'r hyn a wnaed.

Os bydd angen gwaith adferol bydd hyn yn cael ei amlygu, ac ar ôl ei gywiro bydd tystysgrif reoleiddio'n cael ei chyflwyno.

Gwneud cais

Porth LABC

Gallwch chi gwneud cais ar-lein drwy Porth LABC.

E-bost

Yn syml, atodi ffurflen gais wedi'i llenwi, unrhyw gynlluniau, lluniadau, manylebau neu gyfrifiadau fel ffeil pdf i: building.control@npt.gov.uk.  Rhowch fanylion cyswllt fel y gallwn drefnu i'r ffi sy'n ofynnol i gael eu talu, a pharhau â chofrestru a phrosesu eich cais.

Llawrlwythiadau

  • Full plans application form (PDF 743 KB)
  • Building regulations submission form (PDF 743 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau