Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Darganfyddwch Galan Gaeaf yng nghanol ein trefi

Tymor Llawn Hwyl i'r Teulu ledled Castell-nedd Port Talbot 

Tymor Llawn Hwyl i'r Teulu ledled Castell-nedd Port Talbot

Y Galan Gaeaf hwn, bydd canol ein trefi'n dod yn fyw gyda llwybrau tric neu drît, sesiynau adrodd straeon ysbrydion a gweithgareddau cyfeillgar i'r teulu ar gyfer pob oedran. 

O chwilio am y pwmpenni cyfeillgar cudd mewn ffenestri siopau i ddarganfod chwedlau Cymru a straeon ysbrydion yn ein llyfrgelloedd lleol, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau wrth gefnogi'r busnesau lleol gwych sydd yng nghanol ein trefi. 

P'un a ydych yn ymweld â Glyn-nedd, Castell-nedd, Pontardawe neu Bhort Talbot, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am raglen llawn hwyl o ddigwyddiadau Galan Gaeaf. Mae'r gweithgareddau wedi'u cynllunio i annog teuluoedd i archwilio eu trefi lleol, creu atgofion parhaol a darganfod popeth sydd gan ein trefi i'w gynnig. 

Digwyddiadau

Llwybr Cast neu Geiniog Ffrindiau Pwmpen

Dydd Gwener 30 Hydref 2026, 9:00am - 5:30pm

Ymunwch â ni ar Lwybr Cast neu Geiniog Ffrindiau Pwmpen a mwynhewch antur Calan Gaeaf llawn hwyl drwy ganol eich tref.

Digwyddiadau adrodd straeon Galan Gaeaf

Rydym yn falch o groesawu'r adroddwr straeon adnabyddus, Owen Staton, i gyfres o ddigwyddiadau adrodd straeon Galan Gaeaf. Bydd y sesiynau'n cael eu hysbrydoli gan lên gwerin Cymru, chwedlau traddodiadol a straeon ysbrydion iasoer.

I archebu lle mewn unrhyw un o'n digwyddiadau adrodd straeon Galan Gaeaf, cysylltwch â'ch llyfrgell leol yn uniongyrchol. Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rydym yn argymell archebu'n gynnar er mwyn osgoi siom.

Pethau Sy'n Codi Braw yn y Prynhawn

Dydd Mawrth 27 Hydref 2026, 10:30am, Llyfrgell Pontardawe

Dewch i fwynhau sesiwn adrodd straeon llawn dychymyg, antur a straeon Galan Gaeaf hwyliog sydd ddim yn rhy frawychus. Mae'n addas iawn i blant iau a'u teuluoedd.

Addas ar gyfer oedran 5+

Calon Dywyll Cymru

Dydd Mawrth 27 Hydref 2026, 2:30pm,Llyfrgell Pontardawe

Dewch i archwilio ochr dywyllach llên gwerin Cymru drwy straeon ysbrydion traddodiadol a chwedlau goruwchnaturiol yn y sesiwn adrodd straeon awyrgylchus hon.

Addas ar gyfer oedran 13+

Calon Dywyll Cymru

Dydd Mercher 28 Hydref 2026, 2:30pm, Llyfrgell Port Talbot

Ymunwch ag Owen Staton ar daith arall drwy gasgliad cyfoethog Cymru o straeon ysbrydion, mythau a chwedlau.

Addas ar gyfer oedran 13+

Taith Gerdded Straeon Galan Gaeaf – Canol Tref Castell-nedd

Dydd Mercher 28 Hydref, 3:00pm - 4:00pm

Ymunwch â'r adroddwr straeon Ceri John Phillips am Daith Gerdded Straeon Galan Gaeaf arbennig sy'n dechrau ynLlyfrgell Castell-nedd ac yn mynd drwy ganol y dref.

Wedi'i hysbrydoli gan lên gwerin dywyll Cymru a chwedlau trefol, mae'r profiad adrodd straeon awyr agored unigryw hwn yn cyfuno hanes lleol, straeon chwedlonol ac awyrgylch Galan Gaeaf i greu prynhawn cofiadwy.

Addas ar gyfer oedran 13+

Cefnogi canol ein trefi

Mae'r gweithgareddau hyn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi canol trefi bywiog ledled Castell-nedd Port Talbot. Drwy annog preswylwyr ac ymwelwyr i archwilio siopau lleol, llyfrgelloedd a mannau cymunedol, rydym yn helpu i greu profiadau cofiadwy wrth gefnogi'r busnesau sy'n gwneud canol ein trefi yn unigryw. 

Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni y Galan Gaeaf hwn am dymor llawn hwyl i'r teulu, ysbryd cymunedol a digon o bethau annisgwyl brawychus. 

Nol i ben y dudalen