Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Llwybr Ffyn Candi

O na! Mae ffyn candi Siôn Corn wedi diflannu i rywle - ac hebddyn nhw ni fydd gan ei sled ddigon o hwyl yr ŵyl i hedfan ar Noswyl Nadolig! 

Mae'n galw ar bob helpwr bach yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe i ymuno â'r Llwybr Ffyn Candi i geisio dod o hyd iddyn nhw. Dilynwch y cliwiau, chwiliwch am y llythrennau cudd, ac adeiladwch y gair hud fydd yn rhoi'r pŵer sydd ei angen ar sled Siôn Corn i ddosbarthu anrhegion o gwmpas y byd.

Bachwch daflen y llwybrau, lapiwch yn gynnes a byddwch yn barod am antur i'r teulu drwy ganol eich tref leol - yn llawn disgleirdeb, llawenydd a hwyl yr ŵyl!

Sut i gymryd rhan

Rhwng 21 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2025, dilynwch y camau isod i gymryd rhan yn Llwybr Ffyn Candi Cyngor Castell-nedd Port Talbot!

  1. Casglwch eich taflen weithgaredd Llwybr Ffyn Candi o'ch llyfrgell leol ym Mhontardawe, Castell-nedd neu Bort Talbot.
  2. Dilynwch y cliwiau i ddod o hyd i leoliadau o gwmpas y dref a chwiliwch am y llythrennau ar ffyn candi ger y fynedfa, neu ymhellach tu mewn i'r adeiladau.
  3. Dewch o hyd i'r gair hud gan ddefnyddio'r llythrennau ar y ffyn candi y byddwch yn eu canfod. 

Unwaith y byddwch wedi canfod y gair hud, ewch yn ôl i'r llyfrgell lle cawsoch chi'r daflen a'i rhoi yn y blwch postio gyda'ch manylion i'w hanfon yn ôl at Siôn Corn ac i gasglu eich trît melys!

Mae nifer o dalebau siopau'r stryd fawr i'w hennill gwerth hyd at £200! 
Ewch draw i bob un o'r tair tref er mwyn cael mwy o gyfleon i ennill!

Byddwn yn cysylltu â'r enillwyr yn ystod yr wythnos yn cychwyn 22ain Rhagfyr. 

Rhannu eich Adborth