Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Bywyd Gwyllt a'r gyfraith

Polisi

Yn ein rhinwedd fel un o dirfeddianwyr mwyaf y Fwrdeistref Sirol, rydyn ni’n rheoli nifer o barciau, gerddi a llecynnau glas. Rydyn ni’n cydnabod y gall ein gweithgareddau effeithio ar yr amgylchedd lleol.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i warchod bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau iach. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid ystyried natur wrth i ni wneud ein holl waith, o gynllunio ac adeiladu i reoli tir.

I ateb y cyfrifoldeb hwn, rydyn ni wedi cyflwyno polisïau i atal niwed i natur ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor neu a reolir gennym.

Os ydych chi’n meddwl fod trosedd bywyd gwyllt wedi digwydd – fel niweidio rhywogaeth a warchodir neu’i chynefin – ffoniwch 101 i ddweud amdano wrth yr heddlu.

Gwarchodaeth gyfreithiol

Mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau a chynefinoedd, a llawer o’r rheiny’n cael eu gwarchod dan y gyfraith.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu’r asedau naturiol hyn a sicrhau fod unrhyw weithgareddau sy’n digwydd ar dir neu yn y gymuned yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol. 

Mae rhai rhywogaethau a chynefinoedd yn cael eu gwarchod dan gyfraith y DU ac Ewrop. Gall eu niweidio neu darfu arnyn nhw fod yn drosedd. 

Dyma sydd angen i chi ei wybod: 

Ystlumod a'r gyfraith

  • Wedi’u gwarchod yn llwyr, gan gynnwys eu clwydfannau – hyd yn oed pan fyddan nhw’n wag.
  • Anghyfreithlon tarfu arnynt, eu hanafu, eu lladd, a niweidio’r clwydfannau.
  • Gellir rhoi trwyddedau ar gyfer gwneud gwaith hanfodol â mesurau lliniaru.

Gwrychoedd a choed

  • Gwarchodir gan Orchmynion Diogelu Coed, Gorchmynion Ardaloedd Cadwraeth a Rheoliadau Gwrychoedd 1997.
  • Yn aml bydd angen trwydded i dorri coeden i lawr.
  • Mae’r deddfau hyn yn helpu i ddiogelu cynefinoedd ar gyfer adar, ystlumod a bywyd gwyllt arall.

Moch Daear a'r gyfraith

  • Wedi’u gwarchod dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992.
  • Mae’n anghyfreithlon niweidio moch daear nac ymyrryd â’u brochfa.
  • Gall troseddau arwain at ddirwyon hyd at £5,000 neu chwe mis yng ngharchar.

Adar a'r gyfraith

  • Diogelir pob aderyn gwyllt dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
  • Bydd rhywogaethau Rhestr 1 yn cael eu gwarchod gydol y flwyddyn.
  • Mae troseddau’n cynnwys tarfu ar nythod neu fod ag wyau yn eich meddiant.

Dyfrgwn a’r gyfraith

  • Rhywogaeth a warchodir ar draws Ewrop
  • Anghyfreithlon eu niweidio, tarfu arnynt, eu masnachu neu niweidio’u cynefin.
  • Ceir eithriadau yn achos gweithgareddau trwyddedig neu argyfyngau yn unig. 

Ymlusgiaid a'r gyfraith

  • Wedi'i warchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
  • Yn cynnwys rhywogaethau fel y Madfallod Cribog Mwyaf
  • Anghyfreithlon niweidio, gwerthu, neu aflonyddu ar yr anifeiliaid hyn.

Rhannu eich Adborth